Neidio i'r prif gynnwy

Teg i Bawb | Fair for all Cynllun Gweithredu Strategol

Gan gydnabod rôl unigryw Gofal Sylfaenol wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, mae Is-adran Gofal Sylfaenol, Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu Cynllun Gweithredu Strategol sydd wedi'i anelu at bob cyfranogwr a phobl allweddol o fewn y system gofal sylfaenol yng Nghymru.  

Datblygwyd y fframwaith mewn cydweithrediad â chydweithwyr sy'n gweithio ym maes gofal sylfaenol a chyda gofal sylfaenol ledled Cymru ac mae wedi'i ategu gan ddata a thystiolaeth ar yr hyn sy'n gweithio. 

Llywiwyd y cynllun gweithredu gan adolygiadau llenyddiaeth, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chan arbenigwyr â phrofiad. 

Mae allbynnau'r gwaith hwn wedi'u cynnwys ar y dudalen hon:

Gwybodaeth a dogfennau ategol

Papurau tystiolaeth

Adolygu fframweithiau presennol sydd â'r nod o leihau anghydraddoldebau iechyd o fewn gofal sylfaenol. Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau adolygiad llenyddiaeth cyflym ar fframweithiau presennol a nodwyd themâu cyffredin.

Ymyriadau clinigol i leihau anghydraddoldebau iechyd o fewn gofal sylfaenol (Saesneg yn unig). Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau chwiliad a gynhaliwyd gan Wasanaeth Tystiolaeth yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i ganfod tystiolaeth ar ymyriadau atal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol gyda’r nod o leihau anghydraddoldebau iechyd ym maes gofal sylfaenol.

Adroddiadau gweithdai

[ dod yn fuan]

Adroddiad ymgysylltu

[yn dod yn fuan]