Neidio i'r prif gynnwy

Data a gwybodaeth

Mae'r adnoddau ar y dudalen hon yn cynnwys y data gorau sydd ar gael ar hyn o bryd ar y grwpiau mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae cyfyngiadau ar lawer o'r data sydd ar gael, er enghraifft, nid oes unrhyw ffordd hollol gywir o wybod faint o bobl sy'n profi digartrefedd a gall niferoedd ceiswyr lloches a ffoaduriaid newid yn sylweddol yn gyflym iawn. Fodd bynnag, gellir defnyddio'r wybodaeth sydd ar gael o hyd i helpu cynllunio. Mae'r data a ddarperir yma yn fan cychwyn. Rydym yn awgrymu y gellir triongli hyn gyda gwybodaeth a data lleol, gan gynnwys cydweithio â phobl ar reng flaen gwasanaethau a phobl â phrofiad o lygad y ffynnon. Rydym bob amser yn edrych ar sut y gallwn wella'r data hwn. Cysylltwch ag awgrymiadau ar gyfer gwelliannau.

Yn yr un modd, mae amcangyfrif anghenion iechyd y grwpiau poblogaeth yn anodd gan nad oes unrhyw gasgliad rheolaidd o'r data hwn yng Nghymru ac mae tystiolaeth a gyhoeddwyd yn gyfyngedig. Rydym wedi casglu'r dystiolaeth orau sydd ar gael o Gymru neu ymhellach faes i ddarparu crynodebau o dystiolaeth allweddol a ffeithluniau ar anghenion iechyd i helpu i lywio'r math o wasanaethau a setiau sgiliau sy'n debygol o fod eu hangen. 

Crynodebau Tystiolaeth

Mae cyfres o adnoddau yn cael eu datblygu i grynhoi anghenion a phrofiadau iechyd a llesiant grwpiau o’r boblogaeth sy’n agored i niwed yng Nghymru.

Data Iechyd Cynhwysiant fesul Ardal Bwrdd Iechyd

data iechyd cynhwysiant 2025 (Saesneg yn unig) 

 

Porth Cynllunio

Bydd y Tudalennau Data a Gwybodaeth yn eich cefnogi o ran mabwysiadu dull iechyd y boblogaeth ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau.

Lleihau anghydraddoldebau iechyd

Adnoddau a dolenni defnyddiol i ddarparu gwybodaeth a chefnogi camau i leihau anghydraddoldebau iechyd.