Mae gormod o fywydau'n cael eu colli cyn pryd yng Nghymru oherwydd mynediad anghyfartal at flociau adeiladu iechyd (Saesneg yn unig) - addysg dda, cartrefi diogel, digon o arian a gofal iechyd. Mae anghydraddoldebau iechyd yn parhau i fod yn her i Gymru. (REFERENCE)
Gofal iechyd yw un o flociau adeiladu iechyd. Mae Gofal Sylfaenol yn chwarae rhan hanfodol wrth leihau anghydraddoldebau iechyd fel y pwynt cyswllt mwyaf hygyrch o fewn y system iechyd sy'n mynd i'r afael ag anghenion meddygol a chymdeithasol. Er bod sbardunau anghydraddoldebau iechyd y tu allan i'r gwasanaeth iechyd, gall sut y cânt eu darparu leihau neu gynyddu anghydraddoldebau iechyd.
Mae gofal sylfaenol yn gweithio mewn cymunedau a chyda cymunedau. Mae yn y lle iawn i gynnig atal personol, ymyrraeth gynnar a thriniaeth.
Mae'n bwysig ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i wella'r ffyrdd y gall y system gofal sylfaenol yng Nghymru fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Er bod achosion anghydraddoldebau iechyd yn gymhleth, mae camau syml o fewn rheolaeth pob un ohonom, a all, gyda'i gilydd, wneud gwahaniaeth.
Nod y tudalennau hyn yw:
• Cefnogi cydweithwyr sy'n gweithio ym maes gofal sylfaenol, neu gyda gofal sylfaenol, i ystyried anghydraddoldebau iechyd ar draws cynllunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau
• Meithrin capasiti, gwybodaeth a dealltwriaeth o sut i leihau anghydraddoldebau iechyd mewn gofal sylfaenol
Wedi'u cynnwys yn y tudalennau hyn mae Cynllun Gweithredu Strategol Teg i Bawb a dogfennau eraill sy'n anelu at gefnogi systemau gofal sylfaenol i weithredu i leihau anghydraddoldebau iechyd a chefnogi eu poblogaethau mwyaf agored i niwed. Mae gan y gwaith hwn ddau brif faes ffocws.
Rhaglen Lleihau Anghydraddoldebau Iechyd mewn Gofal Sylfaenol.
Yn cynnwys y Cynllun Gweithredu Strategol Teg i Bawb a phecynnau cymorth Tegwch Iechyd. Gan adeiladu ar adborth, nod y rhaglen hon yw helpu'r system gofal sylfaenol i nodi camau y gall eu cymryd a all leihau anghydraddoldebau iechyd.
Rhaglen Iechyd Cynhwysiant
Nod y rhaglen yw meithrin ymwybyddiaeth, gallu a gwybodaeth ynghylch sut y gall y system gofal sylfaenol gefnogi poblogaethau sy'n wynebu anfantais eithafol a lluosog