Zoe yw'r Cyfarwyddwr Rhaglen yn y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol sy'n gweithio i gefnogi'r Cyfarwyddwr Cenedlaethol gyda llywodraethu, cynllunio, monitro, cydlynu a chyflawni'r Rhaglen Strategol. Mae Zoe yn darparu goruchwyliaeth, arweiniad a chyfeiriad i Swyddfa Rheoli Rhaglen RhSGS.
Mae Zoe hefyd yn Gyfarwyddwr Gofal Sylfaenol ac yn Gyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer yr Hwb Gofal Sylfaenol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC). Mae ei phortffolio ICC yn cwmpasu iechyd cyhoeddus deintyddol, atal gofal sylfaenol a thrawsnewid gofal sylfaenol. Mae'n gweithio i sicrhau cysondeb a synergedd ar draws y Canolfannau Gofal Sylfaenol a Rhaglenni Gwaith RhSGS i sicrhau cymaint o adnoddau â phosibl i gefnogi'r gwaith o ddarparu Model Gofal Sylfaenol Cymru drwy lens iechyd cyhoeddus.
Mae Zoe wedi dal nifer o swyddi o fewn cyrff y GIG yn Ne Cymru dros ei 23 mlynedd o wasanaeth GIG a oedd hefyd yn cynnwys secondiad i swydd partneriaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae ffocws ei gyrfa hyd yma wedi canolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth amlasiantaethol, yn bennaf mewn gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol, cynllunio strategol ac ailgynllunio/gwella gwasanaethau, contractwr gofal sylfaenol a chomisiynu trydydd sector, rheoli rhaglenni/prosiectau, monitro/gwerthuso ar draws yr ystod lawn o dimau cynllunio iechyd statudol a lleol. Cyn ymuno â'r GIG yn 2000, bu Zoe yn gweithio yn Tanzania am dair blynedd yn dysgu Bioleg Safon Uwch ac yn darparu cymorth logisteg i weithrediad rhyddhad bwyd brys Sefydliad Iechyd y Byd. Sbardunodd ei chyfnod yn Tanzania ei diddordeb mewn iechyd cyhoeddus a darparu gofal iechyd.