Mae Kerri yn arwain yn broffesiynol weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sy’n gweithio ym mhob rhan o’r maes Gofal Sylfaenol a Chymunedol ac yn rhoi cyngor strategol arbenigol iddynt, yn unol â gweledigaeth Cymru Iachach, y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol a’r Fframwaith Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yng Nghymru - ‘Edrych Ymlaen Gyda’n Gilydd’.
Mae ei rôl yn canolbwyntio ar wneud y gorau o’r hyn sydd gan y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd i’w gynnig ac ar sicrhau eu bod ar gael cymaint â phosibl er mwyn cefnogi ymagwedd ataliol a rhagweithiol o ymdrin â darpariaeth adfer ac adsefydlu, sy'n blaenoriaethu gwasanaethau yn y cartref neu'n agos ato ac sy'n galluogi dinasyddion ledled Cymru i fyw mor annibynnol â phosibl cyhyd ag y bo modd.
Mae gan Kerrie dros 30 mlynedd o brofiad o weithio ym mhob rhan o’r maes iechyd a gofal cymdeithasol ac mae sicrhau bod gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn defnyddio eu sgiliau unigryw i gefnogi anghenion amlwg ac i roi cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn trwy fodel gofal sy'n seiliedig ar le’n bwysig iawn iddi. Mae hi'n arweinydd sydd wedi ymrwymo i greu diwylliant o ofal tosturiol, gan ysbrydoli mwy o gydweithio i sicrhau trawsnewid cadarnhaol, cynhwysol a chynhyrchiol