Mae Emily Wilson yn Swyddog Cefnogi Rhaglen i’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol, yn cefnogi’r rhaglen Seilwaith Cymunedol yn bennaf.
Mae Emily yn Ymarferydd cymwys ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar (Anrh), ac yn flaenorol wedi cefnogi’r Cyfarwyddwr Meddygol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu UDA a'r tîm Atal a Rheoli Heintiau yn ystod pandemig COVID19.
Cyn bo hir, bydd Emily yn astudio Prentisiaeth Uwch mewn Rheoli Prosiectau, gyda dyhead gyrfa mewn Rheoli Prosiectau.