Mae Claire Cawley yn Swyddog Cefnogi Prosiectau sy’n gweithio yn y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol ac mae’n cefnogi'r swyddfa rheoli rhaglenni a’u ffrydiau gwaith.
Yn flaenorol, bu Claire yn gweithio mewn nifer o feddygfeydd ym mhob rhan o BIPAB ac ar gyfer y Rhaglen Byw'n Dda Byw'n Hirach gan gydlynu a chynnal archwiliadau iechyd yn y cymunedau. Mae hi wedi gweithio gyda rhanddeiliaid ac asiantaethau atgyfeirio amrywiol ym mhob rhan o’r sefydliad.
Mae Claire wedi cwblhau Prentisiaethau Uwch Lefel 4 mewn Gweinyddu Busnes a Rheoli Prosiectau.