Bethan Gregory yw Swyddog Cefnogi Rhaglenni’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol gan gefnogi ffrwd waith Trawsnewid a Gweledigaeth ar gyfer Clystyrau a'r Swyddfa Rheoli Rhaglenni.
Cyn hynny, bu Bethan yn gweithio yn yr Is-adran Gofal Sylfaenol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru gan gefnogi prosiectau Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan a chan weithio'n agos gyda llawer o randdeiliaid ar draws y sefydliad a Llywodraeth Cymru.
Ar hyn o bryd mae Bethan yn gweithio tuag at Brentisiaeth Uwch Rheoli Prosiectau gyda’r Gymdeithas Rheoli Prosiectau (APM).