Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp Arwain Proffesiynau Perthynol i Iechyd Gofal Sylfaenol a Chymunedol Cymru Gyfan

Mae Grŵp Arwain AHP Gofal Sylfaenol a Chymunedol Cymru Gyfan yn cael ei gadeirio gan yr Arweinydd AHP Cenedlaethol ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymunedol ac mae’n bodoli i gefnogi arweinyddiaeth gydweithredol, ddeinamig, gydlynol, uchel ei pharch a lefel uchel ar gyfer y proffesiynau AHP yng Nghymru.

  1. DIBEN A SWYDDOGAETH

Diben cyffredinol y grŵp yw llywio gwelliannau Gofal Sylfaenol a Chymunedol sydd o bwys i ddinasyddion, y proffesiynau, GIG Cymru a’r system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach.

Swyddogaeth y grŵp yw darparu fforwm ar gyfer Arweinwyr AHP lefel uchel sy’n gweithio ar draws Gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol, lle gallant rannu arferion gorau, ystyried materion a datblygiadau arfaethedig a dylanwadu ar elfen AHP y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (SPPC).

Amcanion allweddol y grŵp fydd:

  • Nodi cyfleoedd i wella’r gofal a ddarperir i bobl yn eu gwasanaethau drwy rannu arferion da ledled Cymru ag Arweinwyr AHP lefel uchel eraill a’r Arweinydd AHP Cenedlaethol ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymunedol.
  • Darparu cyngor ac arweiniad AHP lefel uchel i’r Arweinydd AHP Cenedlaethol ar gyfer y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (SPPC), gan amlygu materion sydd angen sylw yn genedlaethol.
  • Cynnig fforwm i’r Arweinydd AHP Cenedlaethol lle gellir trafod elfennau o raglen waith AHP y SPPC yn gyfrinachol, i gael safbwynt arweinyddiaeth AHP lefel uchel a lle gall arweinwyr AHP lefel uchel ddylanwadu ar waith y SPPC.
  • Cynnig cefnogaeth, her adeiladol a chyfleoedd i aelodau’r grŵp drafod pryderon/materion gwaith neu fentrau a datrys problemau mewn amgylchedd diogel

 

  1. ATEBOLRWYDD AC ADRODD

Mae gan Grŵp Arwain AHP Gofal Sylfaenol a Chymunedol Cymru Gyfan gynrychiolwyr o amrywiaeth o Arweinwyr lefel uchel a fydd â llinellau atebolrwydd presennol yn broffesiynol ac yn weithredol.

Nid bwriad Grŵp Arwain AHP Gofal Sylfaenol a Chymunedol Cymru Gyfan yw dyblygu’r gwaith a wneir gan y llinellau presennol hyn, ond yn hytrach darparu fforwm ar gyfer Arweinwyr AHP lefel uchel i lywio trawsnewid Gofal Sylfaenol a Chymunedol i gyflawni’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru.

O'r herwydd, anogir cynrychiolwyr sy'n bresennol yng Ngrŵp Arwain AHP Gofal Sylfaenol a Chymunedol Cymru Gyfan i argymell lle y gallai fod angen 'perchnogi, partneru neu hyrwyddo' gwaith neu ei ddatblygu ymhellach.

Mae'r Arweinydd AHP Cenedlaethol ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymunedol yn atebol i'r SPPC, sydd yn ei dro yn adrodd i Fwrdd Rhaglen SPPC ac yna’r Bwrdd Gofal Sylfaenol Cenedlaethol.

  1. AELODAETH A CHYFRIFOLDEBAU AELODAU

Estynnir aelodaeth i’r canlynol:

  • Cyfarwyddwyr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd
  • Dirprwy Gyfarwyddwyr a Chyfarwyddwyr Cynorthwyol Therapïau a Gwyddor Iechyd
  • Cyfarwyddwyr Clinigol Therapïau a Gwyddor Iechyd
  • Arweinwyr AHP Cenedlaethol
  • Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Ymgynghorol
  • Cadeiryddion Rhwydweithiau Proffesiynol AHP Cymru Gyfan
  • Arweinwyr Polisi AHP
  • Cynrychiolwyr Fforwm Proffesiynau Gofal Iechyd AHP
  • Arweinwyr Trawsnewid AHP

Yn ogystal, gwahoddir cynrychiolwyr o’r canlynol:

  • Prif Swyddfa AHP
  • Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol
  • Cyrff perthnasol eraill ar gais y Grŵp

Gellir diweddaru’r aelodaeth wrth i’r grŵp aeddfedu ac mae’r grŵp yn cadw’r hawl i gyfethol cydweithwyr perthnasol fel y pennir gan feysydd archwilio a datblygu.

Mae aelodau’r grŵp yn gyfrifol am y canlynol:

  • Darparu cymorth a chyngor i'r Arweinydd AHP Cenedlaethol ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymunedol.
  • Sicrhau bod meysydd i’w datblygu a nodir yn cyd-fynd â blaenoriaethau ac amcanion y SPPC, Rhanbarthau Byrddau Iechyd a Phrif Swyddogion AHP.
  • Nodi arferion da yn lleol, rhannu arbenigedd a gweithio ar draws ffiniau sefydliadol i nodi meysydd i’w datblygu, sy'n cefnogi gofal diogel, effeithiol ac amserol, a chyfleoedd ar gyfer arloesi, ymchwil a gweithio integredig.
  • Paratoi a chyflwyno llais (a safbwynt) y system gyfan o fewn y sefydliad/proffesiwn/grŵp y maent yn ei gynrychioli.
  • Sicrhau bod gwybodaeth berthnasol yn cael ei chyfleu yn ôl i'w sefydliad/proffesiwn/grŵp mewn modd amserol.
  • Gwneud pob ymdrech i fynd i bob cyfarfod.  Gellir nodi un dirprwy enwebedig, gydag awdurdod dirprwyedig yn ôl yr angen.

Os hoffech ddysgu mwy am y grŵp hwn neu drafod dod yn aelod, cysylltwch â’r Arweinydd AHP Cenedlaethol ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymunedol drwy SPPC@wales.nhs.uk