Mae'r pecyn cymorth hwn wedi'i gynllunio i helpu'r sawl sy'n gweithio ym maes gofal sylfaenol neu’n gysylltiedig â’r maes hwnnw i ystyried anghydraddoldebau ym mhob agwedd ar gynllunio a/neu weithredu gwasanaethau, rhaglenni, neu ymyriadau penodol wedi’u targedu.
Rhestr Wirio Tegwch Iechyd Unrhyw un sy’n gysylltiedig â chynllunio a darparu gwasanaethau gofal sylfaenol gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, arweinwyr clystyrau, cydlynwyr clystyrau, arweinwyr gwasanaethau gofal sylfaenol. Nodyn atgoffa prydlon i helpu cydweithwyr ym maes gofal sylfaenol i gadw tegwch iechyd ar flaen eu meddyliau ym mhob darn o waith a ystyrir.
Offeryn i Ddarparu Cymorth i Wasanaethau Iechyd Cynhwysiant Cydweithwyr sy'n gyfrifol am gynllunio, darparu, neu gomisiynu gwasanaethau iechyd cynhwysiant. Offeryn ategol i ddarparu ar gyfer iechyd cynhwysiant.
Offeryn i Gynorthwyo Asesiadau Tegwch Iechyd (fersiwn hirach o’r rhestr wirio). Yn fwy addas ar gyfer y sawl sy'n gyfrifol am ddatblygu ac ysgrifennu cynlluniau strategol a gweithredol mewn manylder. Fersiwn fanwl o'r rhestr wirio gyda chamau pellach a manylion. Mae'r offeryn yn cynnwys awgrymiadau i arwain eich gwaith o ddatblygu gwasanaeth teg.
Mae'n cynnwys lle i gofnodi a myfyrio, ynghyd â dolenni i adnoddau a gwybodaeth berthnasol yn y ddogfen ac i wefannau allanol.
Sut cafodd y Pecyn Cymorth ei ddatblygu?
Cynhaliwyd adolygiad cyflym o'r offerynnau cyfredol ar gyfer Asesu Tegwch a Chydraddoldeb Iechyd1-8.. Crëwyd y pecyn cymorth hwn i gynorthwyo'r sawl sy'n gweithio yn y system gofal sylfaenol neu’n gysylltiedig â gofal sylfaenol, i ystyried anghydraddoldebau iechyd a chymryd camau i leihau hynny drwy gynllunio gwasanaethau.
Mae'r pecyn cymorth yn debyg i offerynnau eraill ar gyfer asesu tegwch, ond mae wedi'i ddatblygu i gefnogi gofal sylfaenol yn benodol. Mae’r pecyn cymorth tegwch hwn yn cynnig opsiynau ar gyfer y tymor byr a’r hirdymor, a’i nod yw cefnogi’r gwahanol gamau sydd ynghlwm wrth ddatblygu, adolygu a chomisiynu gwasanaethau, yn ogystal â bod yn offeryn penodol i gefnogi datblygiad gwasanaethau iechyd cynhwysiant.