Neidio i'r prif gynnwy

Data a gwybodaeth

Mae'r adnoddau ar y dudalen hon yn cynnwys y data gorau sydd ar gael ar hyn o bryd ar y grwpiau mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae cyfyngiadau ar lawer o'r data sydd ar gael, er enghraifft, nid oes unrhyw ffordd hollol gywir o wybod faint o bobl sy'n profi digartrefedd a gall niferoedd ceiswyr lloches a ffoaduriaid newid yn sylweddol yn gyflym iawn. Fodd bynnag, gellir defnyddio'r wybodaeth sydd ar gael o hyd i helpu cynllunio. Mae'r data a ddarperir yma yn fan cychwyn. Rydym yn awgrymu y gellir triongli hyn gyda gwybodaeth a data lleol, gan gynnwys cydweithio â phobl ar reng flaen gwasanaethau a phobl â phrofiad o lygad y ffynnon. Rydym bob amser yn edrych ar sut y gallwn wella'r data hwn. Cysylltwch ag awgrymiadau ar gyfer gwelliannau.

Yn yr un modd, mae amcangyfrif anghenion iechyd y grwpiau poblogaeth yn anodd gan nad oes unrhyw gasgliad rheolaidd o'r data hwn yng Nghymru ac mae tystiolaeth a gyhoeddwyd yn gyfyngedig. Rydym wedi casglu'r dystiolaeth orau sydd ar gael o Gymru neu ymhellach faes i ddarparu crynodebau o dystiolaeth allweddol a ffeithluniau ar anghenion iechyd i helpu i lywio'r math o wasanaethau a setiau sgiliau sy'n debygol o fod eu hangen. 

Data Iechyd Cynhwysiant fesul Ardal Bwrdd Iechyd

Cyflwynwyd y data iechyd cynhwysiant ar lefel y bwrdd iechyd, yr awdurdod lleol neu ardal ddaearyddol y clwstwr ar sail cryfder y data a pha mor hygyrch ydynt.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Porth Cynllunio

Bydd y Tudalennau Data a Gwybodaeth yn eich cefnogi o ran mabwysiadu dull iechyd y boblogaeth ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau.

Ffeithluniau Iechyd Cynhwysiant 

Mae cyfres o ffeithluniau’n cael eu datblygu i grynhoi anghenion iechyd a llesiant a phrofiadau grwpiau o’r boblogaeth sy’n agored i niwed yng Nghymru.

Ffeithluniau

I ddod yn fuan.

Tablau Crynodeb o’r Dystiolaeth

Mae cyfres o adnoddau yn cael eu datblygu i grynhoi anghenion a phrofiadau iechyd a llesiant grwpiau o’r boblogaeth sy’n agored i niwed yng Nghymru.