Datblygu Fframwaith Gweithredu Tegwch Iechyd ar gyfer Gofal Sylfaenol yng Nghymru
Er mwyn cydnabod rôl unigryw Gofal Sylfaenol wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, mae Is-adran Gofal Sylfaenol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y broses o ddatblygu Fframwaith Gweithredu. Y nod yw mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy ofal sylfaenol.
Ein bwriad yw i’r fframwaith gweithredu hwn gael ei seilio ar dystiolaeth, ei arwain gan ddata, a’i greu ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol.
Ar ôl cynnal yr adolygiad llenyddiaeth, cynhaliwyd tri gweithdy wyneb yn wyneb i randdeiliaid ym mis Hydref 2024 er mwyn nodi meysydd gweithredu allweddol ar y cyd.
Mae’r ddeialog yn parhau gyda gweithdai ar-lein ychwanegol gyda rhanddeiliaid allweddol a defnyddwyr gwasanaeth wedi’u trefnu ar gyfer dechrau 2025. Y nod yw cynhyrchu fframwaith gweithredu ynghyd â chynllun gweithredu strategol erbyn mis Ebrill 2025.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys allbynnau ac adnoddau allweddol yr ydym wedi'u creu a byddwn yn parhau i'w datblygu drwy gydol y broses hon.
Papurau tystiolaeth
Adolygu fframweithiau presennol sydd â'r nod o leihau anghydraddoldebau iechyd o fewn gofal sylfaenol. Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau adolygiad llenyddiaeth cyflym ar fframweithiau presennol a nodwyd themâu cyffredin.
Ymyriadau clinigol i leihau anghydraddoldebau iechyd o fewn gofal sylfaenol (Saesneg yn unig). Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau chwiliad a gynhaliwyd gan Wasanaeth Tystiolaeth yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i ganfod tystiolaeth ar ymyriadau atal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol gyda’r nod o leihau anghydraddoldebau iechyd ym maes gofal sylfaenol.
Adroddiadau gweithdai
[ dod yn fuan]
Fframwaith Gweithredu
[yn dod yn fuan]