Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiadau Ymgysylltu Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru

Hoffem eich gwahodd i ddigwyddiad ymgysylltu min nos yn benodol ar gyfer contractwyr yn ystod Hydref 2024 i roi gwybod eich barn i ni am y newid yn yr hinsawdd a Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru.

Pryd mae’r digwyddiadau? Sut mae cofrestru?
11eg Medi – Ymarfer Cyffredinol – Cofrestrewch Yma
17eg Medi – Gofal Sylfaenol Deintyddol – Cofrestrewch Yma
24ain Medi – Fferylliaeth Gymunedol – Cofrestrewch Yma
2il Hydref – Optometreg Gofal Sylfaenol – Cofrestrewch Yma

Cliciwch yma i weld yr agenda ar gyfer y digwyddiadau. 

Bydd yr holl ddigwyddiadau yn cael eu cynnal o 19:00 - 20:30
Nod pob digwyddiad yw cael dealtwriaeth o sut a pham mae eich proffesiwn yn ymwneud â'r agenda newid hinsawdd. Rydym yn dymuno ymchwilio I’r rhwystrau a’r galluogwyr i gymryd rhan yng Ngynllun Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru – mae hyn yn adeiladu ar ganfyddiadau arolwg a gynhaliwyd yn ddiweddar y gallech fod wedi ymateb iddo eisoes. Byddem yn gwerthfawrogi’n fawr pe baech yn cymrud rhan. Efallai eich bod eisoes yn cymryd rhan neu effalai yr hoffech ddysgu mwy am sut i leihau eich allyriadau carbon a’ch costau?
Rydym yn gobeithio:

  • Trafod ymhellach y materion a’r themâu allweddol a nodwyd yn yr arolwg gwreiddiol
  • Darparu llwyfan proffesiynol a strwythuredig ar gyfer trafodaeth anffurfiol rhwng cymheiriaid am newid yn yr hinsawdd a rôl gofal sylfaenol
  • Nodi themâu, rhwystrau a galluogwyr newydd i fynd i’r afael â nhw yn genedlaethol
  • Codi ymwybyddiaeth o’r Cynllun a chunnig cyngor ymarferol ynglŷn â chofrestru a chymryd rhan
  • Datblygu argymhellion a chamau nesaf i fynd i’r afael â'r themâu allweddol

Pwy ddylai ymuno?
Unrhyw un sy’n gweitho mewn Practisau Cyffredinol, Deintyddiaeth Gofal Sylfaenol, Optometreg Gofal Sylfaenol a Fferylliaeth Gymunedol.