Neidio i'r prif gynnwy

Amdanom Ni

Lansiwyd Fframwaith a Chynllun Dyfarnu Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru am y tro cyntaf ym mis Mehefin 2022 gan Is-adran Gofal Sylfaenol, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Beth yw'r Cynllun?
Mae'r cynllun hyn sydd wedi ennill gwobrau yn cefnogi’r pedwar gwasanaeth contractio gofal sylfaenol annibynnol yng Nghymru (fferylliaeth gymunedol, deintyddiaeth, ymarfer cyffredinol ac optometreg) er mwyn gwella cynaliadwyedd amgylcheddol eu harfer o ddydd i ddydd ac er mwyn cyrraedd targedau datgarboneiddio Llywodraeth Cymru.

Mae’r fframwaith wedi cael eu datblygu mewn cydweithrediad ag ystod eang o randaliadau, ac yn cael ei chymeradwyo gan y Coleg Brenhinol o Ymarferwyr Cyffredinol, y Gymdeithas Ddeintyddol Brydeinig, y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, Optometreg Cymru ar Fferylliaeth Gymunedol Cymru

Newid hinsawdd yw’r her fwyaf sy’n wynebu iechyd yn y tymor canolig a’r tymor hir ac mae’n debygol y bydd y canlyniadau’n bellgyrhaeddol ac yn niweidiol. Bu galwad cynyddol i’r holl weithwyr iechyd proffesiynol weithredu, gan ddadlau bod adfer iechyd cleifion yn cynnwys helpu i greu amgylchedd iach hefyd. 

Ym mis Ebrill 2019, datganodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd gan ymrwymo i gyflawni sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030. Yn fwy diweddar, nododd ei huchelgais i gael allyriadau sero-net ym mhob sector erbyn 2050. Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru 2021-2030.

Yng Nghymru, mae'r Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru Gyfan yn gydnaws â chyd-destun ein deddfwriaeth a’n polisïau. Mae llawer o'r camau gweithredu yn y fframwaith yn cyd-fynd â'r canlynol:

Mae'r agenda hefyd yn cael ei chefnogi gan ddeddfwriaeth a pholisi Cymreig eraill gan gynnwys: Cymru Iachach 2018, Cynllun Teithio Llesol Cymru 2016, Pwysau Iach, Cymru Iach 2019 a Chyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol.

Datganiad gan Marie Brousseau-Navarro, yr Dirprwy Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Chyfarwyddwr Iechyd persennol: 

“Helo, Marie Brousseau-Navarro ydw i ac fel Dirprwy Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Chyfarwyddwr Iechyd, byddwn yn annog y sector gofal sylfaenol cyfan a chontractwyr i ymuno â Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru. Cefais y fraint o gyflwyno Gwobr Cynaliadwyedd 2024 Cymru Iachach GIG Cymru i'r tîm a greodd y Cynllun. 

Mae'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur yn effeithio'n uniongyrchol ar ein hiechyd, ac mae iechyd pobl yn dibynnu'n uniongyrchol ar iechyd y blaned. Drwy gofrestru eich practis a chwblhau camau gweithredu o fewn y Fframwaith byddwch yn cyfrannu at system gofal iechyd fwy cynaliadwy, Cymru fwy cynaliadwy a Chymru sy’n Gyfrifol yn Fyd-eang, sy'n bethau y mae dirfawr eu hangen ar y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. 

Gwyddom fod ein systemau gofal iechyd yn gyfrifol am lefel uchel o allyriadau a gwastraff. Ac nid dim ond ein hysbytai mawrion sy'n gyfrifol am hynny, ond ein fferyllfeydd cymunedol, ein practisau deintyddol a chyffredinol, ac optometreg hefyd. Mae angen i ni wneud y cysylltiadau rhwng y newid yn yr hinsawdd ac iechyd ein cymunedau a gweithredu'n gyflym. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae, ac mae'r Fframwaith hwn yn ein helpu i fabwysiadu ystod eang o gamau gweithredu sy'n addas i unrhyw un.

Mae Fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru wedi’i gynllunio i'n helpu i newid ein harferion a’n hymddygiad, mae’n hwyl, mae'n rhoi boddhad ac yn cyd-fynd â’n gwerthoedd cyffredin a’n gofal. Gallai eich gweithredoedd amrywio o newid modelau caffael i newid sut rydym yn teithio, lleihau ein gwastraff a rheoli ein hôl troed carbon. Dechreuwch yn fach, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cynyddu eich camau gweithredu'n raddol fel eich bod chi'n teimlo'n wirioneddol anturus.


Bydd ymuno â'r Cynllun yn helpu i ddarparu gwell presennol a dyfodol i'n plant a chenedlaethau'r dyfodol. I ddarganfod sut y gallwch wneud eich rhan am ddim,  ymunwch â Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru heddiw!”


Blwyddyn 1 (2022) 
Gwnaeth 2022 gweld y gyfran gyntaf o gontractwyr gofal sylfaenol yn cael eu gwobrwyo fel rhan o'r cynllun. 

Mae recordiad o weminar (Saesneg yn unig) lansiad Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru ar gael i'w wylio isod. Mae'r gweminar yn rhoi trosolwg o'r cynllun ac yn egluro sut i gymryd rhan.
 

Blwyddyn 2 (2023) 
Mae recordiad o weminar (Saesneg yn unig) ail lansiad Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru ar gael i'w wylio isod. Mae'r gweminar yn rhoi trosolwg o'r Cynllun ac yn egluro sut i gymryd rhan.
 

Julie James MS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd (2021-2024), yn siarad am y Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach: "Fel cenedl, rydym yn ymdrechu i fod yn flaengar yn ein hagwedd tuag at newid hinsawdd ac mae hon yn enghraifft berffaith o sut y gallwn roi polisi ar waith":

Enghreifftwyr Bevan

Mae'r Is-adran Gofal Sylfaenol wrth ei bodd bod Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru wedi'i dderbyn ar Garfan 7 o raglen Enghreifftwyr Bevan o dan y thema 'Gwneud pethau'n wahanol ar gyfer adferiad cynaliadwy a darbodus'.

Ar lefel unigol, mae dim gwastraff yn rhwystr eithriadol o uchel i anelu ato ac yn sicr gall ymddangos yn eithaf brawychus. Fodd bynnag, mae’r Fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru yn eiriol dros nifer fawr o bobl yn gwneud newidiadau bach gan fod y dystiolaeth yn awgrymu y bydd hyn yn cael mwy o effaith yn gyffredinol na nifer fach o bobl sy’n gwneud newidiadau mawr.