Croeso i Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru. Mae'r tudalennau gwe hyn yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau i'ch helpu chi a'ch ymarfer i ddod yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol, gan gynnwys mynediad at Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru, a Dyfarniadau Gofal Sylfaenol Cymru Wyrddach.
Mae’r Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru
ar AGOR ar gyfer 2025-26
Mae’r map isod o Gymru yn dangos y practisiau gofal sylfaenol sydd wedi cofrestru i gymryd rhan yn Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru ers lansio’r cynllun yn 2022.
Cliciwch ar bob lleoliad ar y map i gael rhagor o wybodaeth am y practisiau unigol megis enw’r practis, y math o gontractwr, dolen i’r wefan a’r wobr uchaf a ddyfarnwyd i’r practis hyd yma.
Mae’r data a ddefnyddiwyd i greu’r map yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarparwyd gan bractisiau a gall y data newid. Er enghraifft, rydym yn ymwybodol bod rhai practisiau wedi uno neu wedi cau ers iddynt ymuno â’r Cynllun. Cafwyd cyfeiriad gwefan pob practis o Google ac mae’r sgôr seren a ddangosir hefyd yn gysylltiedig â Google ac felly ddim o fewn ein rheolaeth i’w newid.
Mae’r data a ddangosir yn gywir ar 25/08/2025. Anfonwch ymholiadau i: greenerprimarycare@wales.nhs.uk
Gwyliwch ein fideo arddangos sy'n rhoi canllawiau cam wrth gam am sut i gofrestru i gymryd rhan yn Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru.
Gwyliwch y gyhoeddiad ail-lansio byr yma i ddarganfod mwy.
Gwyliwch y fideo byr yma i ddarganfod mwy am y Cynllun
Cynhadledd a Gwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru 2024
Ar 13 Mehefin 2024, cynhaliwyd Cynhadledd a seremoni Gwobrau Cynaladwyedd cenedlaethol cyntaf GIG Cymru i ddathlu cynaliadwyedd ar draws GIG Cymru.
Roedd y tîm y tu ôl i Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru yn falch iawn o ennill gwobr ‘Cymru Iachach’ yn y seremoni, gyda’r categorïau gwobrau yn canolbwyntio ar nodau'r Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae'r wobr benodol hon yn cydnabod y rhai sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda chleifion i wella canlyniadau iechyd, gyda'r buddion yn cael eu mesur mewn canlyniadau cadarnhaol i gleifion, staff, neu grwpiau cymunedol.
Isod mae delwedd o aelodau tîm Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru gyda'u 'Gwobr Cymru Iachach' yn Seremoni Gwobrau Cynaliadwyedd y GIG.
O'r chwith i'r dde: Sian Evans, Angharad Wooldridge, Rebecca Williams Howells.
Ceir rhagor o fanylion am y gynhadledd a’r gwobrau yma. Chwiliwch am sesiynau defnyddiol wedi'u recordio ac erthyglau newyddion yn y dyfodol am y digwyddiad ac enillwyr y gwobrau yma.
Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru Blwyddlyfr 2022
Mae'r blwyddlyfr yma wedi'i ddatblygu i ddathlu llwyddiannau'r practisau sy'n gysylltiedig â'r Cynllun ac mae'n cynnwys casgliad o astudiaethau achos ymarferol i ysbrydoli eraill i gofrestru a chymryd camau eu hunain (I weld, dewiswch 'Fullscreen' ar frig y dudalen neu 'Download' ar waelod y dudalen)
Eluned Morgan AS, (Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol 2021-2014), yn siarad cyn i'r Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru cael ei lansio yn 2022. “Dwi wir yn edrych ymlaen i weithio gyda chi wrth i ni geisio datgarbyneiddio ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gweithio tuag at ein nod o sero net”. Mae'r fideo ar gael yn Saesneg yn unig.
Os ydych chi eisiau rhannu eich syniadau a’ch datblygiadau arloesol ar gyfer dod yn bractis gofal sylfaenol gwyrddach, gallwch ymuno â Gwella, rhwydwaith cymorth am ddim sydd wedi’i gynllunio i ddod â thimau o’r un meddylfryd at ei gilydd. I ymuno gyda Gwella ebostiwch GofalSylfaenolGwyrddach@wales.nhs.uk.