Neidio i'r prif gynnwy

Strwythur a Threfniadau Llywodraethu'r Rhaglen

Mae negodi a dylunio’r contract deintyddol newydd ar gyfer y Gwasanaeth Deintyddol Cyffredinol y tu allan i gwmpas y Rhaglen Diwygio Deintyddol. Fodd bynnag, roedd rhai aelodau o’r Grŵp Goruchwylio Strategol Deintyddol (DSOG) a ffrydiau gwaith diwygio yn rhan o’r negodiadau contract. Bydd rhai yn ymwneud â phrosesau dylunio contract o fewn Llywodraeth Cymru. Felly, disgwylir y bydd y contract deintyddol newydd yn cael ei lywio gan yr hyn a ddysgwyd hyd yma a'r amrywiol asesiadau effaith a risg (e.e. Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb) y mae angen i Lywodraeth Cymru eu cynnal.

 

Mae’r Rhaglen Diwygio Deintyddol yn cael ei noddi a’i lletya o fewn Llywodraeth Cymru.

 

Amcanion strategol cyffredinol diwygio’r system ddeintyddol yw:

  1. Gwella iechyd y boblogaeth, iechyd y geg a llesiant trwy ganolbwyntio’n fwy ar atal a mynd i'r afael ag achosion anghydraddoldebau
  2. Gwella mynediad, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad, profiad a chanlyniadau gofal deintyddol
  3. Cyfoethogi llesiant ac ymgysylltiad y gweithlu deintyddol a sicrhau bod capasiti a gallu’r gweithlu’n cael eu hadolygu’n rheolaidd i ddiwallu anghenion gofal iechyd (gan gynnwys atal eilaidd) y boblogaeth
  4. Cynyddu’r gwerth a geir o ariannu gwasanaethau a rhaglenni deintyddol
  5. Sicrhau bod systemau ansawdd, diogelwch a gwella ar waith ar gyfer deintyddiaeth ac iechyd y geg
     

Y Grŵp Goruchwylio Strategol Deintyddol (DSOG) yw’r grŵp sydd â’r dasg o ysgogi’r Rhaglen i ddarparu cyfeiriad strategol Llywodraeth Cymru (LlC) fel yr amlinellir yn Cymru Iachach. Mae’r grŵp DSOG yn cael ei gyd-gadeirio gan Paul Casey (Dirprwy Gyfarwyddwr Gofal Sylfaenol ac Iechyd Meddwl, Llywodraeth Cymru) a Julie Denley (Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Sylfaenol, Cymunedol a Meddwl, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf). Arweinydd Proffesiynol y grŵp hwn yw Andrew Dickenson, Prif Swyddog Deintyddol Llywodraeth Cymru

 

Mae pedair ffrwd waith sy'n cyflawni'r gweithgareddau sy'n cyfrannu at gyflawni amcanion strategol y Rhaglen Ddiwygio. Y ffrydiau gwaith hyn yw:

  1. Gweithrediadau, Data a Chyllid
  2. Cyfathrebu ac Ymgysylltu
  3. Datblygiad Clinigol
  4. Datblygu’r Gweithlu

 

Darperir swyddogaeth rheoli rhaglen gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi’r gwaith hwn.

 

Pwy sy'n cymryd rhan (pwy yw pwy)

Caiff gwaith Rhaglen Diwygio’r Gwasanaethau Deintyddol ei gydlynu gan y Grŵp Trosolwg Strategol Deintyddol a’i gefnogi gan Grŵp Cydlynu’r Rhaglen.

Mae’r aelodau canlynol yn rhan o’r Grŵp Trosolwg Strategol Deintyddol:

Julie Denley (Cydgadeirydd), Cyfarwyddwr Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Paul Casey, (Cydgadeirydd),  Dirprwy Gyfarwyddwr Gofal Sylfaenol ac Iechyd Meddwl,  Llywodraeth Cymru

Andrew Dickenson, Prif Swyddog Deintyddol, Llywodraeth Cymru

Andrew Pryse, Pennaeth Polisi Deintyddol, Llywodraeth Cymru

Anup Karki, Ymgynghorydd Iechyd Deintyddol Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Kirstie Moons, Deon Deintyddol Ôl-raddedig, Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Kim Dunn, Rheolwr Cyfarwyddiaeth, Bwrdd Iecyhd, Prifysgol Cwm Taf Morgannwg 

Mostafa Hassaan, Dirprwy Brif Swyddog Deintyddol, Llywodraeth Cymru

Paul Brocklehurst, Ymgynghorydd Iechyd Deintyddol Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Paul Gray, Pennaeth Gwasanaethau Deintyddol, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG

Sally May, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Sue Morgan, Cyfarwyddwr Cenedlaethol ac Arweinydd y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymunedol

Warren Tolley, Dirprwy Brif Swyddog Deintyddol, Llywodraeth Cymru a Chyfarwyddwr Deintyddol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

 

Aelodau o Grŵp Cydlynu’r Rhaglen yw:

Amit Duggal, Cynghorydd Clinigol, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG

Andrew Dickenson, Prif Swyddog Deintyddol, Llywodraeth Cymru

Andrew Pryse, Pennaeth Polisi Deintyddol, Llywodraeth Cymru

Anup Karki, Ymgynghorydd Iechyd Deintyddol Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Arweinydd Ffrwd Waith 3

Bronni Preston-Williams, Uwch Rheolwr Project, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Grant Burnip, Arweinydd Datblygu Gwasanaethau, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG

Jeremy Cresswell, Cynghorydd Clinigol, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG

Kathryn Marshall, Pennaeth Datblygu Gweithlu Deintyddol, Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Natasha Hill, Swyddog Cymorth y Rhaglen, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Paul Brocklehurst, Ymgynghorydd Iechyd Deintyddol Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Arweinydd Ffrwd Waith 2

Rob Davies, Cyfarwydd Clinigol Cyswllt, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Warren Tolley, Dirprwy Brif Swyddog Deintyddol, Llywodraeth Cymru a Chyfarwyddwr Deintyddol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac Arweinydd Ffrwd Waith

 

Cysylltwch â ni ar: dentalpublichealth@wales.nhs.uk

 08/04/2025