Graddiodd Warren ym 1991 a chafodd swydd fel hyfforddai galwedigaethol gyda phractis deintyddol prysur y GIG yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr. Prynodd y practis yn fuan ar ôl iddo gwblhau ei hyfforddiant galwedigaethol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd hefyd yn ddarlithydd clinigol rhan-amser yn ysgol ddeintyddol Birmingham ac yn aelod o Bwyllgor Deintyddol Lleol Sandwell. Yn 2003 symudodd i Ganolbarth Cymru i weithio’n rhan amser gyda’r gwasanaeth deintyddol cymunedol gan drin cleifion pediatrig a chleifion gofal arbennig yn bennaf a gweithio fel deintydd cyswllt mewn practis preifat. Yn 2009 daeth yn arweinydd clinigol amser llawn gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Mae’n Gyfarwyddwr Deintyddol Cyswllt Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar hyn o bryd ac mae’n Ddirprwy Gyfarwyddwr Deintyddol Llywodraeth Cymru.