Ystyrir rôl y Cyfarwyddwr Cenedlaethol ac Arweinydd Rhaglen Strategol Gofal Sylfaenol Cymru fel y bont rhwng polisi a darpariaeth. Canolbwynt y rôl yw hyrwyddo’r broses o weithredu’r Model Gofal Sylfaenol yng Nghymru drwy’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol sy’n golygu gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau a’r pedwar gwasanaeth contractio annibynnol.
Mae gan Sue 25 mlynedd o brofiad o weithio fel rheolwr gyda’r GIG sy’n cynnwys rheoli gweithredol, cynllunio gwasanaethau, comisiynu a rheoli rhaglenni ar draws nifer o sefydliadau gwahanol y GIG yng Nghymru. Cyn iddi symud i’w swydd bresennol, roedd Sue yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau Gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a wynebodd heriau’n ymwneud â chynaliadwyedd y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ynghyd â’r ysgogiad i drawsnewid y system ofal gyfan i’w darparu mor agos at y cartref â phosibl. Cyn hynny roedd Sue yn bennaeth Gwasanaethau Menywod a Phlant, ac yn ogystal â rheoli’r gwasanaethau hynny’n gyffredinol, roedd hefyd yn rhan o’r broses o gynllunio a chomisiynu Ysbyty Plant Cymru. Yn y ddwy swydd roedd yn gweithio ar draws sefydliadau ar lefel ranbarthol a chenedlaethol a chyda phartneriaid eraill megis cyrff proffesiynol, Awdurdodau Lleol, y Sector Annibynnol a’r Trydydd Sector. Gweithiodd Sue ar ddechrau ei gyrfa fel rheolwr gweithredol mewn cynllunio gofal eilaidd a gwasanaethau iechyd.