Penodwyd Paul yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Gofal Sylfaenol a Chymunedol gyda Llywodraeth Cymru ym mis Hydref 2022. Cyn hynny bu’n gyfrifol am dîm strategaeth a negodiadau contract gofal sylfaenol. Mae’n gyfrifol am ddatblygu a gweithredu polisïau i wella canlyniadau iechyd i bobl Cymru; gan gyflawni uchelgeisiau i ddarparu gofal mewn lleoliad gofal sylfaenol a chymunedol sy’n seiliedig ar anghenion yr unigolyn.
Mae gan Paul dros 30 mlynedd o brofiad mewn amrywiaeth o swyddi yn y gwasanaeth sifil, gan gynnwys tîm y Trefniadau Pontio Ewropeaidd ble y bu’n gweithio ar bolisi’r farchnad fewnol, cymorth gwladwriaethol a goblygiadau protocol Gogledd Iwerddon; ac i Drysorlys Cymru fel rhan o’r tîm sy’n datblygu fersiwn Cymru o’r model cyllid preifat ar gyfer buddsoddi asedau. Cyn hynny roedd yn Bennaeth Ymchwil y swyddfa cyllid Ewropeaidd. Ar ddechrau ei yrfa bu Paul yn gweithio fel rhan o’r tîm economeg gan roi cyngor ar bolisi amaethyddol a gwledig.