Mae ffrwd waith 3 yn arwain ar faterion sy'n ymwneud ag arweiniad clinigol, ansawdd a darpariaeth deintyddiaeth y GIG ar ran y rhaglen, ac yn darparu mecanwaith ffurfiol ar gyfer 'cymeradwyo' datblygiadau clinigol cyn gweithredu.
Mae gwaith y grŵp hwn yn cynnwys y meysydd canlynol:
- Camau clinigol yn deillio o ddata a ffynonellau gwybodaeth eraill sy'n berthnasol i wasanaethau deintyddol
- Newidiadau i ganllawiau clinigol a gweithrediad
- Datblygu Cylchlythyrau Iechyd Cymru
- Egwyddorion Gofal o ran rhwystrau gweithredu a hwyluswyr
- Cymysgedd sgiliau ym maes deintyddiaeth y GIG
- Materion yn codi o Fforwm Ymgynghori Strategol (SAF) a Rhwydweithiau Clinigol a Reolir (MCNs) ac unrhyw ganllawiau clinigol a ddatblygir gan SAFs a Rhwydweithiau Clinigol a Reolir
- Ystyried sut y gall diwygio ymgorffori datblygiadau digidol a thechnolegol wrth ddarparu gwasanaethau
- Alinio gwasanaethau arbenigol ar draws y sectorau sylfaenol, cymunedol ac ysbytai
- Gweithdrefnau Tystiolaeth Glinigol Gyfyngedig (PoLCE) a gwasanaethau gorfodol / canllawiau eraill sydd eu hangen ar gyfer ymarfer clinigol os nad oes canllawiau ar y meysydd hynny gan sefydliadau y gellir ymddiried ynddynt ar hyn o bryd
- Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol
- Gwasanaethau Deintyddol Ysbyty
- Bydd rhywfaint o’r gwaith yn cael ei gyflwyno drwy grwpiau Gorchwyl a Gorffen byrhoedlog yn ôl yr angen
Caiff Ffrwd Waith 3 ei chadeirio gan Andrew Dickenson, Prif Swyddog Deintyddol, (Llywodraeth Cymru).
I gael copi o Gylch Gorchwyl y grŵp hwn, cysylltwch â .
Wedi'i ddiweddaru 08/04/2025