Mae ffrwd waith 1 yn mynd i'r afael â'r angen parhaus am ddadansoddiad ariannol, defnyddio data o fewn deintyddiaeth a gweithio ar y cyd â Byrddau Iechyd i ddatrys heriau o fewn y broses rheoli contractau.
Mae gwaith y grŵp hwn yn cynnwys y meysydd canlynol:
- Dadansoddiad i ddeall y goblygiadau ariannol sy'n deillio o ddiwygio
- Opsiynau ar gyfer model Refeniw Taliadau Cleifion (PCR) yn y dyfodol
- Datblygu fframwaith perfformiad a yrrir gan ddata ar gyfer deintyddiaeth a nodi'r holl ddata sydd ar gael a chynnal meincnodi
- Datblygu dull rheoli contract safonol
- Ystyried camau gweithredu priodol yn deillio o adroddiadau gwybodaeth iechyd y geg
- Ceisiadau newid NHSBSA
- Darparu darlun o sut mae'r system ddeintyddol gyffredinol yn perfformio
- Asesu goblygiadau ariannol mwy o fynediad i ofal deintyddol
Caiff Ffrwd Waith 3 ei chadeirio gan Warren Tolley, Dirprwy Brif Swyddog Deintyddol, (Llywodraeth Cymru).
I gael copi o Gylch Gorchwyl y grŵp hwn, cysylltwch â .
Wedi'i ddiweddaru 08/04/2025