Mae Ffrwd Waith 2 yn datblygu ac yn gweithredu strategaeth gyfathrebu ar gyfer deintyddiaeth; ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol a chynnal rhaglen waith i lywio diwygiadau deintyddol.
Mae gwaith y grŵp hwn yn cynnwys y meysydd canlynol:
- Strategaeth gyfathrebu gynhwysfawr ar gyfer deintyddiaeth y GIG
- Dod â safbwyntiau gwahanol randdeiliaid deintyddol/iechyd y geg at ei gilydd ar elfennau allweddol diwygio deintyddol
- Sicrhau bod persbectif cleifion/cyhoedd yn cael ei gynnwys ar elfennau allweddol o ddiwygio deintyddol
- Nodi ac ystyried goblygiadau polisi ac arferion sy'n dod i'r amlwg (deintyddol neu'n ehangach) o safbwyntiau'r rhanddeiliaid deintyddol
- Datblygu cysylltiadau priodol â grwpiau perthnasol eraill a gwaith sy’n berthnasol i’r diwygiadau deintyddol (e.e. Pwyllgor Deintyddol Cymru, Ymchwil a Datblygu ac ati)
Caiff Ffrwd Gwaith 2 ei chadeirio gan Andrew Pryse, Pennaeth Polisi Deintyddol (Llywodraeth Cymru).
I gael copi o Gylch Gorchwyl y grŵp hwn, cysylltwch â .