Beth yw diben ACORN?
Pecyn Cymorth yw’r Asesiad o Risgiau ac Anghenion Clinigol y Geg (ACORN) a gynlluniwyd gan weithwyr deintyddol proffesiynol yn ystod Rhaglen Diwygio’r Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol i gefnogi timau deintyddol i gynnal asesiad cynhwysfawr o risgiau ac anghenion mewn modd systematig. Mae’n crynhoi’r hyn a ganfuwyd o hanes cleifion ac archwiliadau clinigol. Mae’n cynorthwyo practisau i roi cyngor personol ac i gytuno ar gynllun gofal deintyddol blynyddol ataliol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y dolenni isod.
Ewch i'r Dudalen Gartref Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol