Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae angen diwygio'r system ddeintyddol?

Mae contract yr Uned Gweithgarwch Deintyddol (UDA), a gyflwynwyd yn 2006, yn methu â bodloni anghenion cleifion a'r proffesiwn deintyddol. Mae strategaeth "Cymru Iachach" Llywodraeth Cymru yn eirioli dros system ddeintyddol fwy seiliedig ar anghenion, ataliol ac o ansawdd uchel. Nod diwygio’r contract yw gwella iechyd y boblogaeth ac iechyd y geg, cynyddu mynediad a thegwch, cefnogi llesiant y gweithlu, a sicrhau ansawdd a diogelwch gwasanaeth.

Mae contract deintyddol newydd wedi’i gynllunio ar gyfer 2026, a fydd yn rhan o uchelgais ehangach i greu system gofal deintyddol gydgysylltiedig, cynaliadwy a theg. Bydd llwyddiant yn cael ei fesur drwy fonitro parhaus, dadansoddi data, a chanolbwyntio ar ganlyniadau cleifion ac ansawdd gwasanaethau. Mae cydweithredu â rhanddeiliaid yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn ac arwain gwell gofal i gleifion.

Mae Rhaglen Diwygio’r  yn datblygu, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, o fewn y cyd-destun a ddisgrifir yn y dogfennau strategol allweddol canlynol.

 

 

Cysylltwch â ni ar: dentalpublichealth@wales.nhs.uk

Wedi'i ddiweddaru 08/04/2025