Mae cymaint o'r gwaith a wnawn yn y GIG yng Nghymru yn golygu newid. Er mwyn cefnogi datblygiad a gweithrediad syniadau newydd, ffyrdd newydd o weithio, systemau a phrosesau newydd, mae'n hanfodol inni gadw at ddull strwythuredig o ddatblygu a gweithredu'r newid er mwyn caniatáu'r siawns orau o lwyddo. Rheoli prosiect yw hyn.
Yn y bennod hon nodir y prif egwyddorion ar gyfer dylunio, gweithredu a gwerthuso eich prosiect, ynghyd â rhai templedi y gallech fod am eu defnyddio. Does dim angen ichi ddefnyddio'r holl dempledi - defnyddiwch y templedi a fydd yn fwyaf defnyddiol yn eich tyb chi i’ch cefnogi gyda'ch prosiect.
Cliciwch i ehangu pob pennawd pwnc wedi'i grwpio i ddatgelu cynnwys am destunau penodol, a allai gynnwys crynodebau un llinell, dolenni cyfeirio uniongyrchol, neu ddolenni i gynnwys pellach ar is-dudalennau (hyperddolenni i gael eu hychwanegu wrth i is-dudalennau testun ddod ar gael yn ddwyieithog). Bydd y pecyn cymorth yn datblygu gyda chefnogaeth defnyddwyr; rhowch eich adborth yma.