Mae’r pecyn cymorth hwn yn dwyn ynghyd nifer o offer a fframweithiau y gellid eu defnyddio ar eu pen eu hunain neu ar y cyd i gefnogi lleoliadau, systemau a phartneriaethau gofal iechyd i asesu a gwneud y gorau o’u gwasanaethau o safbwynt y boblogaeth. Mae'r pecyn cymorth yn adnodd i helpu i nodi tueddiadau, anghenion, a gwahaniaethau o fewn cymunedau, ac i gefnogi cynllunio a chyflawni effeithiol a gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau. Ni fwriedir i'r offer sydd ynddo fod yn rhagnodol ond, yn hytrach, bod yn ganllaw i ganiatáu i benderfyniadau gael eu gwneud mewn ffordd systematig.