Mae monitro'n cyfeirio at osod targedau a cherrig milltir i fesur cynnydd a chyflawniad, a gwirio a yw'r mewnbynnau'n cynhyrchu'r allbynnau arfaethedig h.y. mae'n penderfynu a yw gweithredu'n gyson â’r bwriad dylunio – gan awgrymu y gallwn addasu ein dull gweithredu yn ystod y cyfnod monitro. Nid dangos llwyddiant yn y pen draw yn unig yw nod gwerthuso; mae hefyd yn rhoi cipolwg ar pam nad yw pethau'n gweithio (gan fod gan ddysgu o gamgymeriadau werth cyfartal). Nid dysgu am bopeth yw diben monitro a gwerthuso (a fyddai’n heriol), ond maent yn canolbwyntio ar y pethau sy'n bwysig.
Monitro a gwerthuso
Mae adran Sicrhau monitro a gwerthuso’r Porth Cymorth Cynllunio i Glystyrau wedi'i rhannu'n isadrannau sy'n ymwneud â'r meysydd canlynol:
Gweler y Porth Cymorth Cynllunio i Glystyrau, sy'n cynnwys adran am Sicrhau monitro a gwerthuso.
Adolygiad gan gymheiriaid clwstwr
Mae adolygu gan gymheiriaid yn galluogi'r rhai sy'n deall systemau lleol a'r pwysau presennol orau nodi rhwystrau a galluogwyr ac i rannu arfer da. Mae gan adolygiadau gan gymheiriaid fanteision i glystyrau, Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a'r Rhaglen Strategol Gofal Sylfaenol (RhSGS) gan gynnwys tynnu sylw at strwythurau a systemau sy'n gweithio'n effeithiol a nodi risgiau nad ydynt wedi cael eu datrys eto. Mae blwyddyn pontio'r adolygiad gan gymheiriaid clwstwr yn gyfle i brofi proses newydd a darparu gwybodaeth i lywio proses adolygiad cymheiriaid reolaidd.
Gweler Adolygiad cymheiriaid clwstwr: Blwyddyn Pontio, sy’n ddogfen ar wahân.
Cynllun monitro a gwerthuso MGSiG a DCC
Mae Model Gofal Sylfaenol Cymru a'r Cynllun Monitro a Gwerthuso Rhaglenni Datblygu Clwstwr Carlam (DCC) yn nodi sut y bydd yr uchelgeisiau trawsnewid hyn yn rhoi sicrwydd o gynnydd gweithredu a dysgu a rennir, ac yn cefnogi cydlynu cynlluniau lleol a rhanbarthol. Mae'n disgrifio’r broses fesul cam o gyflwyno sawl offeryn a chynnyrch ategol.
Cynllun Monitro a Gwerthuso MGSiG a DCC
MGSiG a DCC Beth Pwy Pam Sut Pwy Pryd (Diagram)
Monitro a Gwerthuso MGSiG a DCC (Trosolwg)
Canlyniadau DCC
Taflen Ddigidol Model Gofal Sylfaenol i Gymru