Neidio i'r prif gynnwy

Dangosfwrdd Metrigau Gofal Sylfaenol a Gofal yn y Gymuned (PCC)

Mae Dangosfwrdd Metrigau Gofal Sylfaenol a Gofal yn y Gymuned (PCC) wedi'i gynllunio i wella sut mae Cymru'n deall ac yn defnyddio data am y gofal a ddarperir mewn cymunedau bob dydd. Gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned sy'n darparu'r rhan fwyaf o gysylltiadau cleifion ar draws y GIG, ond mae maint ac effaith y gwaith hwn wedi bod yn anodd eu gweld yn aml. Mae'r dangosfwrdd hwn yn newid hynny drwy ddod â gwybodaeth allweddol ynghyd mewn un lle, sy’n cynnig darlun cliriach o weithgarwch, galw a chanlyniadau ledled Cymru. 

Wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth â Byrddau Iechyd, awdurdodau lleol, contractwyr annibynnol, a thimau cenedlaethol, mae'r dangosfwrdd yn adeiladu ar y gwaith Metrigau Gofal Sylfaenol a wnaed yn 2023–24. Mae'n dwyn ynghyd setiau data presennol, yn safoni sut mae gwybodaeth yn cael ei chyflwyno, ac yn darparu trosolwg lefeluchel o berfformiad y PCC ar lefelau clwstwr, Bwrdd Iechyd, a Chymru gyfan. Gall defnyddwyr hefyd gael mynediad at ddolenni i ddangosfyrddau mwy manwl, sy’n ei gwneud hi'n haws archwilio meysydd penodol o ddiddordeb heb ddyblygu’r gwaith dadansoddi presennol. 

Mae'r dangosfwrdd wedi'i gynllunio ar gyfer unrhyw un sydd angen mewnwelediadau prydlon a dibynadwy i ofal sylfaenol a gofal yn y gymuned—boed ar gyfer cynllunio, trafodaethau perfformiad, briffiau gweinidogol, neu wella gwasanaethau. Drwy gynyddu gwelededd gweithgarwch PCC, mae'n cefnogi sgyrsiau mwy gwybodus ar draws Llywodraeth Cymru, Perfformiad a Gwella GIG Cymru, Byrddau Iechyd, a darparwyr dan gontract, a fydd yn helpu i nodi cyfleoedd i wella gwasanaethau, lleihau rhwystrau, a gwella profiad y claf. 

Mae’r Dangosfwrdd Metrigau PCC yn gam sylweddol tuag at ddull mwy tryloyw, cyson a chysylltiedig o ddeall gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned yng Nghymru—a fydd yn cefnogi penderfyniadau gwell, sgyrsiau gwell, ac yn y pen draw, canlyniadau gwell i’r bobl a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. 

Gwybodaeth Allweddol  

Aliniad â Gwaith Presennol 

Nid yw'r dangosfwrdd yn disodli nac yn dyblygu dangosfyrddau manwl presennol. Yn hytrach, mae'n darparu trosolwg lefel uchel ac yn cysylltu'n uniongyrchol ag adnoddau mwy manwl. 

Defnyddio Data Cenedlaethol Presennol 

Mae manteisio ar setiau data a gwybodaeth sydd eisoes ar gael yn y parth cyhoeddus yn sicrhau effeithlonrwydd, yn lleihau dyblygu, ac yn cefnogi dangosfwrdd cynhwysfawr a pherthnasol. 

Swyddogaeth Porth 

Mae'r dangosfwrdd yn gweithredu fel porth i ddangosfyrddau eraill sy'n gysylltiedig â PCC. Mae trefniadau llywodraethu gwybodaeth ar gyfer y dangosfyrddau hynny yn aros yr un peth. 

Dangosydd Trosolwg o'r System 

Bydd set ddata sylfaenol y cytunwyd arni yn rhoi golwg gryno, ar draws y system, o'r metrigau PCC pwysicaf. 

Mireinio Iteraidd 

Gwneir diweddariadau yn rheolaidd (bob dwy flynedd yn ôl pob tebyg), wedi'u llywio gan adborth defnyddwyr a newidiadau yn argaeledd data. Bydd yr holl ddiweddariadau’n cael eu cyfleu i randdeiliaid drwy e-bost. 

Rhagor o wybodaeth? 

sppc@wales.nhs.uk  

Mynediad 

Mae mynediad ar gael i holl Staff y GIG (unrhyw un sydd â mewngofnod Nadex) a gellir darparu mynediad i randdeiliaid y tu allan i GIG Cymru sydd angen mynediad.  

Adborth