Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw Cymru gyfan ar gyfer rheoli cleifion ag achos wedi ei gadarnhau neu achos a amheuir o Covid-19 yn y Gymuned

Mae canllaw Cymru gyfan ar gyfer rheoli cleifion sydd ag achos wedi ei gadarnhau neu achos a amheuir o Covid-19 yn y Gymuned yn ystod gaeaf 2020/21 a’r pecyn adnoddau bellach ar gael i glinigwyr a rheolwyr ledled Cymru.

Mae canllaw Cymru Gyfan ar gyfer rheoli cleifion ag achos a amheuir neu achos wedi’i gadarnhau o COVID-10 yn y gymuned wedi cael ei ddatblygu i gefnogi gwasanaethau gofal sylfaenol, cymunedol, a chyn-ysbyty. Bydd y canllaw yn helpu clinigwyr, nyrsys, parafeddygon, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i benderfynu pa gleifion y dylid eu rheoli gartref gyda chyngor penodol ynghylch rhwyd ddiogelwch, a pha gleifion y dylid eu derbyn i’r ysbyty.

Datblygwyd y canllaw ar y cyd â chynrychiolwyr y maes gofal sylfaenol, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ac arbenigwyr anadlol ar draws pob un o’r saith Bwrdd Iechyd, ac mae wedi ei gefnogi a’i ardystio gan Gyfarwyddwyr Meddygol Cynorthwyol a Llywodraeth Cymru.

Pwrpas y rhaglen yw helpu i reoli Covid-19 a darparu pecyn cymorth sy’n cynnwys addysg drwy gyfrwng fideo, adnoddau, a diweddariadau y mae’n hawdd cael mynediad atynt i weithwyr iechyd proffesiynol a rheolwyr yn y gymuned. Disgwylir sawl fersiwn drwy gydol cyfnod y gaeaf a bydd angen hysbysu defnyddwyr am y newidiadau hyn.

Bydd y canllaw yn rhan o raglen dosbarthu a gweithredu a gydlynir yn genedlaethol er mwyn cyflawni ei dri nod allweddol:

1)   Dyrannu’r adnoddau cywir i’r bobl gywir ar yr amser cywir

2)   Sicrhau bod cleifion dethol yn cael eu monitro a bod rhwyd ddiogelwch ar waith i ganfod dirywiad yn gynnar

3)   Helpu i sicrhau bod gan gleifion statws haint COVID cyn cael eu derbyn i’r ysbyty er mwyn lleihau trosglwyddiad yn yr ysbyty ble bo hynny’n bosibl.

I gael gfael ar yr adnoddau mae angen mewngofnodi i wefan ICST

https://allwales.icst.org.uk/news/the-all-wales-guideline-for-the-management-of-patients-with-confirmed-or-suspected-covid-19-in-the-community-during-winter-2020-21-is-now-available/ (Saesneg yn unig)

 

Sefydliad Gwyddoniaeth Glinigol a Thechnoleg (ICST)