Neidio i'r prif gynnwy

Pecyn hyfforddi yn cefnogi gofal mwy diogel i bobl ag anabledd dysgu

Mae pobl ag anabledd dysgu yn marw tua 20 mlynedd cyn eu cyfoedion ac yn wynebu problemau iechyd y gellir eu hosgoi oherwydd amrywiaeth o rwystrau sy'n cyfyngu ar eu mynediad at ofal iechyd.

Mae Wythnos Anabledd Dysgu (16 – 22 Mehefin), dan arweiniad Mencap, yn canolbwyntio ar weld, clywed a gwerthfawrogi pobl ag anabledd dysgu, ac mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn tynnu sylw at yr wythnos i godi ymwybyddiaeth o wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu.

Anogir pob aelod o staff iechyd a gofal cymdeithasol sy'n delio â'r cyhoedd yn GIG Cymru i gwblhau pecyn hyfforddi ar-lein sydd â'r nod o godi ymwybyddiaeth o anghenion pobl ag anabledd dysgu o fewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae hyfforddiant Ymwybyddiaeth Anabledd Dysgu Paul Ridd wedi'i gynhyrchu ochr yn ochr â phobl ag anabledd dysgu a rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o'r gwasanaethau iechyd a'r trydydd sector.

Nod yr hyfforddiant yw cefnogi staff gofal iechyd i ddatblygu eu hyder a'u galluoedd eu hunain i wneud addasiadau rhesymol er mwyn sicrhau bod gan bobl ag anabledd dysgu fynediad at ofal iechyd priodol.

Mae adeiladu gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd ar draws y gweithlu yn weithred allweddol wrth leihau anghydraddoldebau iechyd i bobl ag anabledd dysgu.

Gwaddol Paul Ridd i bobl Cymru

Roedd Paul Ridd yn byw yng Nghymru. Roedd ganddo anabledd dysgu ac yn 2009 bu farw marwolaeth y gellid bod wedi’i hosgoi. Roedd yn bum deg pedwar oed. Ers colli Paul, mae ei deulu ac eraill wedi ymgyrchu am well hyfforddiant a chefnogaeth i staff gofal iechyd i ddarparu gofal mwy diogel i bobl ag anabledd dysgu. Yn anffodus, nid yw stori Paul yn achos ynysig.

Mae'r hyfforddiant yn gwneud staff yn ymwybodol o'r rhwystrau a wynebir gan bobl ag anabledd dysgu wrth gael mynediad at ofal iechyd. Mae'n ymdrin â phynciau gan gynnwys cyfathrebu,

deall ac ymateb i ymddygiad, anghenion iechyd pobl ag anabledd dysgu a materion cyfreithiol a pholisi.

Dywedodd Dr Rachel Ann Jones, Arweinydd Rhaglen Anabledd Dysgu Genedlaethol, Perfformiad a Gwella GIG Cymru: “Fel yr ydym wedi’i weld yn anffodus ormod o weithiau, gall y rhwystrau y mae pobl ag anabledd dysgu yn eu hwynebu wrth gael mynediad at ofal iechyd gael canlyniadau dinistriol, a dyna pam mae’r hyfforddiant hwn mor bwysig.

“Mae'n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau gan gynnwys cyfathrebu, deall ac ymateb i ymddygiad, anghenion iechyd pobl ag anabledd dysgu, materion cyfreithiol a pholisi.

“Rydym ni a theulu Paul yn gobeithio y bydd yr hyfforddiant yn rhoi gwybodaeth i staff gofal iechyd ar yr hyn y mae angen iddynt ei wybod a'i wneud, er mwyn nodi a diwallu anghenion iechyd pobl ag anableddau dysgu yn effeithiol. Drwy rymuso’r gweithlu gyda gwell gwybodaeth, rydym yn cymryd cam cadarnhaol, diamheuol, i leihau’r anghydraddoldebau iechyd sy’n bodoli ar hyn o bryd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.”

Mae Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Anabledd Dysgu Paul Ridd wedi'i rannu'n ddwy adran; haen 1 ar gyfer yr holl staff sy'n wynebu'r cyhoedd a haen 2 sydd wedi'i hanelu at yr holl weithwyr gofal iechyd a chymdeithasol proffesiynol sy'n gweithio mewn gwasanaethau anabledd dysgu, a gellir ei gwblhau drwy'r Cofnod Staff Electronig (ESR) neu drwy wefan Dysgu@Cymru. Dysgwch ragor a chyrchwch hyfforddiant Ymwybyddiaeth Anabledd Dysgu Paul Ridd ar wefan Perfformiad a Gwella GIG Cymru.