Hoffai Tîm Ymgysylltu â Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru ddiolch i chi am eich cefnogaeth barhaus i godi ymwybyddiaeth o sgrinio.
Mae ymgyrchoedd ymwybyddiaeth iechyd yn gyfle da i barhau i rannu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth o sgrinio.
Mae mis Hydref yn Fis Ymwybyddiaeth Canser y Fron. Gallwch helpu i gefnogi'r ymgyrch drwy:
Hoffi a rhannu cynnwys cyfryngau cymdeithasol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Facebook ac Instagram drwy gydol y mis.
Cyfeirio a rhannu fideo newydd Bron Brawf Cymru, Sgrinio'r fron - yr hyn i'w ddisgwyl, gyda'ch rhwydweithiau.
Lawrlwytho a rhannu adnoddau dwyieithog digidol sgrinio'r fron o Padlet a llyfrgell asedau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar eich platfformau cyfryngau cymdeithasol a'ch hysbysfyrddau. I gael mynediad at y llyfrgell asedau bydd angen i chi gofrestru gyda'ch cyfeiriad e-bost.
Rhannu erthyglau golygyddol Cymraeg a Saesneg Bron Brawf Cymru yn eich cylchlythyrau.
Rhannu fideos Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Bron Brawf Cymru.
Gall rhannu eich profiad pesonol o gael prawf sgrinio'r fron helpu eraill sy'n ystyried a fyddant yn derbyn eu cynnig i gael eu sgrinio. Gallwch ymweld â'r tudalen Adborth ar wefan Bron Brawf Cymru neu gysylltu â'r Tîm Ymgysylltu â Sgrinio os hoffech chi rannu eich profiad sgrinio.
Archebu cardiau-z a'u defnyddio i gefnogi digwyddiadau a sgyrsiau sgrinio yn eich cymuned.
Rhowch wybod i ni os ydych wedi defnyddio ein hadnoddau neu os oes gennych adborth ar sut wnaethoch chi gefnogi Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron.
Edrychwch ar y calendr am ymgyrchoedd sydd ar ddod.