Neidio i'r prif gynnwy

Lleihau Anghydraddoldebau Iechyd drwy Ofal Sylfaenol

Mae Is-adran Gofal Sylfaenol tîm  Anghydraddoldebau ac Iechyd Cynhwysiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu tri offeryn syml i gefnogi’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal sylfaenol neu gyda nhw i ymgorffori tegwch a’i ystyried wrth gynllunio.

(Lleihau Anghydraddoldebau Iechyd trwy Ofal Sylfaenol - Gofal Sylfaenol Un

Offeryn 1 - Rhestr Wirio Tegwch Iechyd.

Rhestr wirio sydyn, dwy dudalen o hyd, ar gyfer rhai sy’n ymwneud â chynllunio a chyflenwi gwasanaethau gofal sylfaenol. Mae’n offeryn syml sy’n ceisio helpu cydweithwyr gofal sylfaenol i feddwl am degwch wrth ystyried gwaith newydd neu adolygu prosiectau sydd eisoes ar y gweill.

Offeryn 2: Gwasanaethau Iechyd Cynhwysiant .

Mae hwn yn offeryn i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd cynhwysiant.  

Offeryn manwl sydd â’r nod o arwain y gwaith o gynllunio gwasanaethau teg. Mae’n offeryn rhyngweithiol gyda manylion pellach a dolenni at ragor o wybodaeth a chyngor.  

Mae’r pecynnau cymorth hyn yn debyg i offer tegwch eraill, ond maent wedi’u datblygu’n benodol i helpu’r system ofal sylfaenol yng Nghymru. Nod y tri offeryn gwahanol yw ceisio cefnogi camau amrywiol y gwaith o ddatblygu, adolygu a chomisiynu gwasanaethau.  

Byddem yn croesawu adborth ar yr offeryn a chael gwybod a ydych yn eu gweld yn ddefnyddiol, anfonwch neges i victoria.tice@wales.nhs.uk os oes gennych sylwadau.