Ymunwch â Ni ar gyfer Lansiad Atlas Amrywiadau Cardiofasgwlaidd 2025 – ddydd Mercher 24 Medi 2025 – 12.00pm – 1.00pm
Taflodd yr Atlas Amrywiadau Cardiofasgwlaidd, a gyhoeddwyd gyntaf yn 2019, oleuni ar wahaniaethau mewn gofal ar gyfer syndrom coronaidd acíwt, methiant y galon, ffibriliad atrïaidd, a ffactorau risg clefyd cardiofasgwlaidd (CVD). Fe helpodd i gychwyn sgyrsiau pwysig am degwch a gwerth yn GIG Cymru.
Am y tro cyntaf, bydd yr Atlas ar gael fel dangosfwrdd Power BI rhyngweithiol – gan eich galluogi i adnewyddu data’n gyflymach a’i gyrchu’n haws, a defnyddio offer pwerus i archwilio mewnwelediadau pwysig.
Byddwch yn rhan o'r sgwrs a gweld sut y gall yr Atlas newydd gefnogi gofal cardiofasgwlaidd gwell a thecach.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Lansiad.
https://events.teams.microsoft.com/event/9c8c0dd9-1fa6-4e6c-8e1b-6f70332591a7@bb5628b8-e328-4082-a856-433c9edc8fae (Saesneg yn unig)