Mae'r Rhaglen Strategol Gofal Sylfaenol (RhSGS) yn falch o gyhoeddi lansiad ffurfiol y Fframwaith Nyrsio Gofal Sylfaenol a Chymunedol
Datblygwyd y Fframwaith Nyrsio Gofal Sylfaenol a Chymunedol gan nyrsys gofal sylfaenol a chymunedol, ac mae'n amlinellu sut y byddant yn cyfrannu at gyflawni uchelgeisiau Cymru Iachach a Model Gofal Sylfaenol Cymru.
Mae'r fframwaith yn cynnwys:
Mae'r fframwaith ar gyfer nyrsys gofal sylfaenol a chymunedol ac yn amlygu i Fyrddau Iechyd a Llywodraeth Cymru, y cyfraniad y mae nyrsys gofal sylfaenol a chymunedol yn ei gynnig tuag at "wasanaethau hyrwyddo, amddiffyn, atal, iachau, adsefydlu a lliniaru i bobl, drwy gydol eu hoes" (Sefydliad Iechyd y Byd, 2023, Gofal Sylfaenol).
Cyhoeddwyd ar wefan RhSGS, mae'r darlleniad byr ar gael yma: Fframwaith Nyrsio Gofal Sylfaenol a Chymunedol. Os hoffech weld y papur llawn, cysylltwch â SPPC@wales.nhs.uk.
Gellir cyfeirio unrhyw sylwadau neu ymholiadau am y Fframwaith Nyrsio Gofal Sylfaenol a Chymunedol at SPPC@wales.nhs.uk.