Neidio i'r prif gynnwy

Enillwyr Gwobrau Cynaliadwyedd Cymru GIG

Llongyfarchiadau i’r Is-adran Gofal Sylfaenol

Mae Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach i ennill y wobr ‘Cymru Iachach’ yng Ngwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru a gynhaliwyd yn genedlaethol am y tro cyntaf ddydd Iau 13 Mehefin 2024.

Daeth dros 80 o geisiadau am y gwobrau i law gan brosiectau o bob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd yng Nghymru, yn canolbwyntio ar hyrwyddo gofal iechyd cynaliadwy ac yn cefnogi’r broses o ymgorffori arferion cynaliadwy mewn gofal clinigol.

Roedd y tîm wrth ei fodd ei fod wedi ennill y wobr a hoffai ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi’r gwaith, gan gynnwys y practisau gofal sylfaenol a fu’n rhan o’r cynllun dros y tair blynedd diwethaf.

 Meddai Sian Evans, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus yr Is-adran Gofal Sylfaenol:

“Roeddem i gyd wedi ein cyffroi’n fawr o dderbyn y wobr a gweld gwaith y contractwyr gofal sylfaenol sy’n gweithio gyda ni yn cael cydnabyddiaeth, a hynny mewn digwyddiad mor fawreddog.

“Rydym yn edrych ymlaen at ychwanegu at lwyddiant y Cynllun yn ystod 2024 ac yn y dyfodol”

Mae’r Cynllun Gofal Sylfaenol Gwyrddach yn cefnogi lleoliadau gofal sylfaenol i wella eu cynaliadwyedd amgylcheddol.

Ers lansio’r Cynllun yn 2022, mae rhwng 85 a 109 o dimau wedi cofrestru i gymryd rhan bob blwyddyn gyda’r potensial i gyrraedd dros 500 o unigolion bob blwyddyn. Cyflwynwyd cynnig corfforaethol newydd i Boots (fferyllfa) a Specsavers (optegydd). 

Gyda’i gilydd mae’r timau hyn wedi cyflawni bron i 3000 o gamau gweithredu cyfeillgar i’r hinsawdd, ac wedi eu rhoi ar waith ar draws y maes gofal sylfaenol, gan arwain at werth a buddiannau ariannol, amgylcheddol, cymdeithasol a chlinigol i staff a chleifion.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth: Gofal Sylfaenol Gwyrddach