Lansiwyd y Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol yn swyddogol heddiw (15 Mai 2024) yn ystod Cynhadledd Addysg a Hyfforddiant Gofal Sylfaenol a Chymunedol AaGIC yng Nghaerdydd.
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (RhSaGS)) wedi datblygu’r Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (CGSagRS) i gefnogi gweithrediad y Model Gofal Sylfaenol i Gymru (MGSiG) a gweithredoedd Cymru Iachach. Mae’r cynllun yn cyd-fynd efo’r themâu yn y Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae'r cynllun yn cynnwys y gweithlu sy'n darparu gwasanaethau gofal sylfaenol ar lefel leol, clwstwr neu genedlaethol, gan gynnwys gwasanaethau a ddarperir gan gontractwyr annibynnol, gwasanaethau gofal sylfaenol a reolir a staff a gyflogir gan Fyrddau Iechyd ar draws y cyfnod 24/7. Mae'r camau gweithredu penodol ar gyfer gofal sylfaenol yn y cynllun hwn yn seiliedig ar allbwn ymgysylltu â rhanddeiliaid ond hefyd wedi'u llywio gan ymchwil a gwybodaeth am y gweithlu ar ddatblygu gweithlu cynaliadwy.
2024/25 fydd dechrau’r rhaglen 5 mlynedd i gyflawni’r ddau ddeg chwech o gamau allweddol a nodir yn y cynllun, i fynd i'r afael â heriau a chyfleoedd y gweithlu o fewn gofal sylfaenol. Mae'r camau allweddol hyn yn adeiladu ar gynllun ar wahân yn seiliedig ar broffesiwn ar gyfer fferylliaeth (cyhoeddwyd yn 2023) a chynllun gweithlu deintyddol penodol (yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd) ochr yn ochr â chynlluniau gweithlu eraill sy'n benodol i'r sector ac mae'n ategu'r camau gweithredu o fewn y Fframwaith Nyrsio Gofal Sylfaenol a Chymunedol (cyhoeddwyd yn 2024), Fframwaith Amlbroffesiynol ar gyfer Gweithio Integredig (cyhoeddwyd yn 2023) a’r Fframwaith Cenedlaethol Gweithlu Proffesiynau Perthynol i Iechyd (cyhoeddwyd yn 2021).
Gellir cyfeirio unrhyw sylwadau neu ymholiadau am y cynllun at heiw@wales.nhs.uk / SPPC@wales.nhs.uk gan ddefnyddio'r teitl pwnc ‘ Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol’.