Neidio i'r prif gynnwy

Compendiwm Rolau a Modelau Gofal Sylfaenol a Chymunedol

Mae gwefan Compendiwm Rolau a Modelau Gofal Sylfaenol a Chymunedol wedi ei chreu ar ran ffrwd waith Gweithlu a Datblygu Sefydliadol y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (RhSGS) mewn cydweithrediad ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Cefndir

Lansiwyd y Compendiwm Rolau a Modelau Sy’n Dod i’r Amlwg mewn Gofal Sylfaenol gan y Gwasanaethau Addysg a Datblygu'r Gweithlu, sydd bellach yn rhan o AaGIC) yn 2018.

Wrth i rolau gofal a modelau gwasanaeth sylfaenol a chymunedol barhau i esblygu, rydym wedi diwygio'r cynnwys a'r ymarferoldeb, gan ddod ag adnodd cyfoes wedi'i ailgynllunio i chi a fydd yn ehangu wrth symud ymlaen.

Mae’r wefan Hafan | Compendiwm Gofal Cymunedol Sylfaenol (heiw.cymru)  bellach yn FYW, yn barod i’w ddefnyddio, cyfeirio ato, a’i hyrwyddo ymhlith cydweithwyr. 

Beth Yw E...

Datblygwyd y wefan y llynedd yng ngham un, gyda deuddeg o astudiaethau achos, yna cafodd ei lansio'n feddal i gael adborth ar olwg a naws y wefan.  Yng ngham dau ychwanegwyd cynnwys atodol at yr astudiaethau achos oedd eisoes ar y wefan a datblygwyd astudiaethau achos newydd i dyfu'r compendiwm ymhellach. 

Mae pob astudiaeth achos yn tynnu sylw at y rai sy’n cyflwyno modelau gofal ‘yn fyw’ yng Nghymru ac yn arddangos enghreifftiau o waith aml-broffesiynol integredig yn darparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn nes at y cartref.  Roedd y rhai a gymerodd ran yn weithwyr proffesiynol â phrofiad o lygad y ffynnon, yn gweithio ar frig eu trwydded, mewn ffyrdd newydd neu arloesol, gyda dolenni ar bob tudalen i adnoddau cysylltiedig, megis gwybodaeth am gyrff rheoleiddio a  gyrfaoedd.

Sut Gellir Ei Ddefnyddio

Rhannu arfer da drwy gefnogi gweithgareddau ymchwil a datblygu hanfodol, cyn comisiynu gwasanaethau i fodloni anghenion poblogaethau lleol, trwy adolygu enghreifftiau sydd wedi'u profi.

Fel llwyfan Unwaith i Gymru ar gyfer rhannu modelau arloesol ac unigryw o ddarpariaeth gofal sylfaenol a chymunedol, mae'n arbed amser, arian ac ymdrech sydd ynghlwm wrth hyrwyddo lleol; gan alluogi defnyddio astudiaethau achos, trwy hypergysylltu, i gefnogi gwaith wedi’i alinio ac osgoi dyblygu

Mae astudiaethau achos newydd yn cael eu croesawu a gellir eu cyflwyno drwy'r botwm Cyflwyno Astudiaeth Achos  ar y dudalen Hafan a’r dudalen Astudiaethau Achos. Darperir ffurflen a chyfarwyddiadau ar y broses.

Gellir cyfeirio unrhyw sylwadau neu ymholiadau ynghylch lansio’r wefan yn uniongyrchol i SPPC@wales.nhs.uk gan nodi, yn y llinell pwnc, 'Compendiwm RhSGS''.