Mae Canllaw Cymru ar gyfer Rheoli COVID Hir yn rhan o'r Rhaglen Adferiad (Adferiad) ar gyfer yr adran iechyd yn Llywodraeth Cymru sy'n darparu cefnogaeth uniongyrchol i weithwyr iechyd a gofal proffesiynol ledled GIG Cymru.
I ategu canllawiau clinigol NICE a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2020, cydweithiodd Llywodraeth Cymru a’r grŵp cymheiriaid o Gyfarwyddwyr Therapïau ar gyfer pob un o’r saith Bwrdd Iechyd ledled GIG Cymru â rhanddeiliaid allweddol eraill yn cynnwys Cyfarwyddwyr Meddygol Cyswllt i lunio Llwybr Cymunedol Cymru Gyfan ar gyfer Covid Hir. Mae hyn yn disgrifio’r fframwaith yn unol â Cymru Iachach sy’n sail i lwybrau lleol i sicrhau dull gweithredu cyson ar draws holl fyrddau iechyd. Mae Llwybr Cymunedol Cymru Gyfan ar gyfer Covid Hir yn sail i’r canllaw clinigol - y Canllaw Cymru Gyfan ar gyfer Rheoli Covid Hir, sydd ar gael i’r holl weithwyr iechyd a gofal proffesiynol ledled GIG Cymru.
Mae'r pecyn cymorth cenedlaethol ar-lein atodol yn darparu cyfres gyfannol ac integredig o adnoddau a hyfforddiant o ansawdd uchel i weithwyr iechyd a gofal proffesiynol mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol ledled Cymru, gan eu galluogi i helpu a chynghori pobl sy'n gwella o COVID Hir. Pwrpas y canllawiau hyn yw sicrhau bod cleifion a chanddynt symptomau sy'n gyson â COVID Hir yn cael cynnig gofal a chymorth o ansawdd effeithiol ac mewn rhai achosion yn cael eu cyfeirio at gymorth amlddisgyblaethol arbenigol.
Cewch glywed mwy am y canllawiau gan Dr. Mark Walker, uwch gynghorydd meddygol Llywodraeth Cymru https://allwales.icst.org.uk/news/all-wales-guideline-for-post-covid-syndrome-coming-soon
I gael mynediad uniongyrchol at y canllawiau mewngofnodwch i wefan ICST
https://allwales.icst.org.uk/log-in/?redirect_to=https://allwales.icst.org.uk/guidelines/all-wales-guideline-for-the-management-of-long-covid/
Mae'r Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Glinigol (ICST) yn cynnal ac yn rheoli Canllawiau Cymru Gyfan ar gyfer Rheoli COVID Hir, sydd ar gael am ddim i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru. Bydd hyn yn darparu profiad cyson a di-dor i ymarferwyr mewn lleoliad gofal sylfaenol a chymunedol gan fod ICST hefyd yn cynnal ac yn darparu Canllawiau Gofal Eilaidd COVID-19 Cymru a Chanllawiau Cymru Gyfan ar gyfer Rheoli cleifion â COVID-19 wedi'i gadarnhau neu yr amheuir bod COVID-19 arnynt yn y Gymuned. "