Yn ystod haf 2020, cyflwynwyd Canllawiau Rheoli a Rhagnodi Cymru Gyfan ar gyfer Asthma mewn Oedolion a COPD. Mae’r canllawiau hyn yn cynnig ymagwedd genedlaethol ar gyfer ymarferwyr ledled Cymru.
Ar ddiwedd 2021, diweddarwyd y canllawiau hyn i gynnwys gwybodaeth am ragnodi mewnanadlwyr cynaliadwy, cynyddu ymwybyddiaeth o effaith mewnanadlwyr dosiau a fesurir ar argyfwng yr hinsawdd a symud tuag at fersiynau amgen sy’n fwy cynaliadwy.
Mae’r canllawiau diweddaraf a’r rhaglen addysgol gysylltiedig ar gael i bob gweithiwr proffesiynol yng Nghymru drwy lwyfan Cymru Gyfan, a gynhelir gan ICST. Hefyd, mae copïau sydd wedi’u hargraffu wedi’u hanfon i holl feddygfeydd ar draws Cymru (Chwefror 2022).
Cefnogir y canllawiau Cymru Gyfan gan raglen o sioeau teledu, tiwtorialau ac asesiadau gyda thystysgrifau ac adnoddau ychwanegol yn seiliedig ar achosion, a ddarperir gan arbenigwyr anadlol o bob rhan o Gymru.
Yn ogystal, lansiodd apiau Healthhub GIG Cymru, ar gyfer cleifion â COPD, oedolion ag asthma a rhieni plant ag asthma ymgyrch i gynyddu ymwybyddiaeth am effaith amgylcheddol mewnanadlwyr, a phryd i ofyn am gyngor gan eu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol am a fyddai’n addas iddynt newid i fewnanadlwyr sy’n well ar gyfer yr amgylchedd.
Mae ICST yn cynnal ac yn rheoli’r canllawiau a’r apiau hyn, yn ogystal â dewis eang o lwybrau a chanllawiau eraill, o fewn y Llwyfan ICST Cymru Gyfan sydd ar gael yn rhad ac am ddim i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a chleifion ledled Cymru. https://allwales.icst.org.uk
I gyrchu’r canllaw yn uniongyrchol, mewngofnodwch i'r Llwyfan ICST Cymru Gyfan ac ewch i: https://allwales.icst.org.uk/programmes/nhs-wales-green-agenda-sustainable-inhaler-prescribing/
I gyfeirio eich cleifion at yr ap sy’n addas iddyn nhw, dilynwch y dolenni isod:
Asthmahub: https://healthhub.wales/asthmahub/
Asthmahub i Rieni: https://healthhub.wales/asthmahub-for-parents/
COPDhub: https://healthhub.wales/copdhub/