Ddydd Mawrth 1 Gorffennaf rhwng 10:00
Bydd y weminar hon yn cyflwyno dau ddangosfwrdd data a ddatblygwyd ar gyfer gofal sylfaenol yng Nghymru.
Datblygwyd Dangosfwrdd Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru trwy gydweithrediad rhwng Gweithrediaeth y GIG ac Is-adran Gofal Sylfaenol Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae amddifadedd wedi'i wreiddio'n ddwfn yng Nghymru. Mae clystyrau mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn wynebu heriau gofal iechyd mwy, megis mwy o gyflyrau cronig, disgwyliad oes iach is, a mwy o farwolaethau y gellid eu hosgoi. Mae amddifadedd hefyd yn effeithio ar ddarpariaeth gofal iechyd, gydag amrywiadau gweladwy yn y gweithlu a phresgripsiynu. Mae'r dangosfwrdd yn tynnu sylw at amrywiad ar draws ystod o fesurau, gyda'r nod o ysbrydoli ymchwiliadau pellach, a gwella gofal cleifion yn y pen draw.
Datblygwyd Dangosfwrdd Clwstwr Gofal Sylfaenol gan Arsyllfa Iechyd y Cyhoedd Cymru gyda rhanddeiliaid o dimau iechyd cyhoeddus lleol a Llywodraeth Cymru.
Diben y Dangosfwrdd Clystwr Gofal Sylfaenol yw darparu dangosfwrdd sy'n gysylltiedig â gwybodaeth iechyd y cyhoedd gofal sylfaenol a fydd yn cefnogi ystod o ddefnyddwyr a chynllunio. Bydd proffil cryno yn galluogi defnyddwyr ddelweddu dangosyddion allweddol a chymharu data dangosyddion â chyfartaleddau byrddau iechyd a Chymru gyfan.
Mae croeso i chi rannu'r ddolen gofrestru gydag eraill. Cynhelir y sesiwn yn rhithwir ar Teams ac fe gaiff ei recordio.
Os na allwch fynd i’r sesiwn ond hoffech gael gwybod am y datblygiadau diweddaraf, nodwch hyn ar y ffurflen gofrestru.