Neidio i'r prif gynnwy

Monitro a Gwerthuso

Mae monitro’n cyfeirio at bennu targedau a cherrig milltir i fesur cynnydd a chyflawniad, a gwirio a yw’r mewnbynnau’n cynhyrchu’r allbynnau a gynlluniwyd. Mae gwerthuso yn ymwneud â mwy nag arddangos llwyddiant yn y pen draw; mae hefyd yn darparu mewnwelediadau i pam nad yw pethau’n gweithio (oherwydd mae dysgu o gamgymeriadau yr un mor werthfawr). Nid yw monitro a gwerthuso’n ymwneud â chanfod pob dim yn unig (sy’n peri gofid), ond maent yn canolbwyntio ar y pethau sy’n cyfrif.   

Adnoddau monitro a gwerthuso

Ceir cyfoeth o adnoddau i lywio gweithgareddau monitro a gwerthuso, gan gynnwys:

  • Canllaw cyflwyniadol i werthuso (Data Cymru): Bydd y canllaw hwn yn cefnogi eich dealltwriaeth o beth yw gwerthusiad a pham y mae’n bwysig ar gyfer eich prosiectau, rhaglenni a pholisïau; mae’n rhoi’r wybodaeth sylfaenol i chi, fel eich bod yn deall pam a phryd y gallech gynnal gwerthusiad; mae’n rhoi cyfeiriad i chi o ran y dulliau gweithredu a’r prosesau y gallech eu defnyddio i gynnal gwerthusiad effeithiol; ac mae’n darparu gwybodaeth am arweiniad a chymorth pellach.  
  • The Magenta Book: Guidance for evaluation (Trysolys EM): The Magenta Book yw’r canllawiau a argymhellir gan y llywodraeth ganolog ar werthuso sy’n nodi’r arferion gorau i adrannau eu dilyn; fe’i hargymhellir gan Data Cymru fel yr adnodd gwerthuso gorau.
  • Mae’r Public Health Intervention Responsive Studies Teams (PHIRST), a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, yn darparu gwerthusiadau amserol a hygyrch o ymyriadau iechyd cyhoeddus. Mae’r cynllun PHIRST yn cysylltu timau academaidd gyda llywodraeth leol a sefydliadau iechyd cyhoeddus i werthuso ymyriadau iechyd cyhoeddus sydd eisoes yn digwydd ledled y DU.  

Gall gwerthusiad cymuned ymarfer Iechyd Cyhoeddus Cymru ddarparu mynediad i hyfforddiant ac adnoddau i gefnogi gweithgareddau monitro a gwerthuso. Cofrestrwch drwy anfon e-bost at PHW.Evaluation@wales.nhs.uk

Mae mesurau’r system yn cynnwys:

Modelau Rhesymeg

Gall modelau rhesymeg helpu i wirio’r elfennau y mae’n rhaid eu dwyn ynghyd i gynllunio, darparu a gwerthuso prosiect yn llwyddiannus. Gellir eu cynnwys mewn cynlluniau prosiectau o’r cychwyn cyntaf neu gallant hysbysu cynllun monitro a gwerthuso pwrpasol drwy ganfod yr hyn a ganlyn:

  • Mewnbynnau: Y pethau allweddol sydd eu hangen arnom i fuddsoddi/y mae angen i ni eu rhoi ar waith i gefnogi’r gweithgaredd.
  • Gweithgareddau: Beth a wnawn gyda’r mewnbynnau.
  • Allbynnau: Beth a gynhyrchwn o ganlyniad i’r gweithgareddau.
  • Canlyniadau: Beth fydd ein cynnyrch yn ei gyflawni i bobl neu wasanaethau (amcanion).
  • Effeithiau: Uchelgeisiau lefel uchel yn y pen draw e.e. nodau pedwarplyg Cymru Iachach.
  • Rhwystrau: Beth allai fod yn anodd i ni ddylanwadu arno neu ei oroesi (e.e. ffactorau allanol).
  • Tybiaethau: Beth yr ydym yn gobeithio sydd eisoes ar waith (amodau cefnogol, ac ati).

Mae model rhesymeg yn ceisio sefydlu cysylltiadau dilyniannol rhwng yr elfennau uchod, mewn tabl aml-res neu ar ffurf diagram. Weithiau maent yn haws i’w llenwi o’r dde i’r chwith, yn hytrach nag o’r chwith i’r dde (gan ddechrau gyda mewnbynnau). Mae’r cyngor ar ddatblygu modelau rhesymeg yn cynnwys:  

  • Modelau rhesymeg (Data Cymru): Defnyddio modelau rhesymeg i gynllunio, mapio a nodi’r gweithgareddau a’r mewnbynnau sy’n arwain at ganlyniadau, a deall y newidiadau a ddymunir a phwy fyddai’n atebol amdanynt.
  • Defnyddio modelau rhesymeg i werthuso (Yr Uned Strategol): Paratowyd y ddogfen friffio hon ar gyfer NHS England, gan yr uned strategaeth, fel rhan o raglen hyfforddi i gefnogi gwaith gwerthuso cenedlaethol a lleol ar raglen a safleoedd y fenter Vanguard.

Uwchraddio prosiectau

Mae prosiectau peilot yn gwahaniaethu rhwng yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio. Gall datblygu pethau sy’n gweithio ar raddfa lai i fod ar raddfa fwy (e.e. bwrdd iechyd neu ôl-troed Cymru Gyfan) fod yn heriol; ceir cyngor yn yr adnoddau a ganlyn:

  • Rhaglen Enghreifftiau Bevan (Comisiwn Bevan): Mae Comisiwn Bevan yn comisiynu rhaglenni arloesedd ac yn galluogi’r rheini sy’n gwneud newidiadau i drawsnewid y gwasanaethau iechyd a gofal i holl ddinasyddion Cymru a thu hwnt.  
  • Mae’r Dragons Heart Institute yn hyfforddi arweinwyr gofal iechyd y dyfodol ac yn paratoi timau i ddatblygu eu hatebion ar draws eu system a’r byd ehangach.
  • Against the odds: Successfully scaling innovation in the NHS (Innovation Unit, Diweddarwyd): Mae’r adroddiad hwn gan yr uned arloesedd a’r Sefydliad Iechyd yn galw am ddulliau newydd i ehangu arloesi mewn gofal iechyd a brofwyd; mae’n amlygu’r angen i greu’r amodau cywir i ddatblygu’r rhain yn llwyddiannus ar draws y GIG.
  • Spreading and scaling up innovation and improvement (BMJ 2019;365:l2068): Mae lledaenu arloesedd ar draws y system gofal iechyd yn heriol ond gellir ei gyflawni o bosibl drwy resymegau gwahanol: mecanistig, ecolegol a chymdeithasol.