Neidio i'r prif gynnwy

Tystiolaeth

Mae Gwasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi darparu polisïau, ymarfer a gwneud penderfyniadau ynghylch iechyd ar sail tystiolaeth sy’n ategu camau gweithredu iechyd cyhoeddus, drwy gynhyrchu arolygon systematig, mapiau tystiolaeth a chrynodebau cyflym.

Mae NICE yn cyhoeddi argymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth a ddatblygwyd gan bwyllgorau annibynnol o aelodau proffesiynol a lleyg yr ymgynghorwyd arnynt gyda rhanddeiliaid. Mae’r canllawiau’n cynnwys: 

Mae ffynonellau eraill o dystiolaeth ar gyfer camau gwella yn cynnwys:

Mae’r dystiolaeth sy’n benodol i bynciau yn cynnwys:

Mae hunanladdiad yn her sylweddol i iechyd y cyhoedd yng Nghymru a ledled y byd, a chafwyd 339 o farwolaethau cofrestredig yng Nghymru yn 2022. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn darparu data yn ôl gwlad a rhanbarth.

Er gwaethaf anawsterau o ran tangofnodi a chasglu data, mae hunan-niwed yn arwain at 5,500 o dderbyniadau blynyddol i'r ysbyty, gan amlygu’r angen dybryd am well strategaethau cofnodi ac atal.

Yng Nghymru a Lloegr, mae Crwner yn ardystio hunanladdiadau ar ôl cynnal cwest, ac mae’r achosion hyn yn cael eu cofnodi’n swyddogol ar ôl i’r cwest ddod i ben. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol ar farwolaethau cofrestredig trwy hunanladdiad, fel arfer yn yr hydref. Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn deillio o'r marwolaethau a gofnodwyd mewn blwyddyn benodol, yn hytrach na’r rhai a ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn honno.

Ers mis Ebrill 2022, mae yna set ddata ychwanegol yn ymwneud â marwolaethau trwy hunanladdiad. Mae system wyliadwriaeth genedlaethol wedi’i sefydlu yng Nghymru i olrhain marwolaethau y mae asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn amau eu bod yn hunanladdiadau, gan gynnig trosolwg mwy uniongyrchol (cyn y cwest). Mae'r system Arolygu Amser Real Hunanladdiadau Tybiedig (RTSSS) yn dod yn fwyfwy hanfodol ar gyfer gwella.

ein dealltwriaeth o farwolaethau trwy hunanladdiad a nodi'r rhannau o gymdeithas yr effeithir arnynt fwyaf. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn goruchwylio’r set ddata hon ac yn cydweithio’n agos â’r Heddlu, sy’n darparu adroddiadau misol.

Gall llesiant meddwl olygu llawer o bethau i lawer o bobl wahanol, yn gyffredinol mae'n ymwneud â'r modd yr ydym yn meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu. Yn syml, mae'n golygu “teimlo'n dda a gweithredu'n dda”.

Mae llesiant meddwl yn wahanol i iechyd meddwl. Cyfeirir at iechyd meddwl yn aml fel presenoldeb neu absenoldeb salwch meddwl. Gall pobl fod â llesiant meddyliol da er eu bod wedi cael diagnosis o salwch corfforol neu feddyliol.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ymgyrch genedlaethol o’r enw Hapus. Y nod yw annog pobl i flaenoriaethu eu llesiant meddyliol a gwneud amser ar gyfer y pethau a all hybu llesiant meddyliol, megis treulio amser gyda theulu a ffrindiau, cysylltu â natur, neu ymwneud â hobïau a diddordebau.

Mae tudalennau gwe Hapus yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau, gan gynnwys gwybodaeth ac erthyglau ynghylch yr ymchwil ddiweddaraf, tudalen bwrpasol ar gyfer gweithwyr proffesiynol, a detholiad o offer Llesiant meddyliol ar gyfer cyfeirio sy'n helpu i hybu llesiant meddyliol.

Mae Cymru iach ar waith hefyd yn darparu gwybodaeth ac adnoddau perthnasol, gan gynnwys camau y gall cyflogwyr eu cymryd i wella llesiant meddyliol yn y gweithle.

Hunanladdiad a hunan-niwed [teitl acordion]

Mae’n bwysig tynnu sylw at y ffaith bod hunanladdiad a hunan-niwed yn faterion sy'n ymwneud â'r boblogaeth ac nad ydynt yn faterion iechyd meddwl yn unig. Felly, mae'n bwysig i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ddatblygu hyder wrth ymateb yn briodol i bobl y mae hunanladdiad a hunan-niwed yn effeithio arnynt. Mae Hwb Hyfforddiant Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed Cymru wedi’i ddatblygu i gefnogi’r gwaith o gyflawni strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niwed Llywodraeth Cymru, a chefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol ar eu taith dysgu a datblygu.  

Mae'r platfform yn cynnwys:

 

Ymhlith yr adnoddau ychwanegol y mae:

Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn fforwm ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol i alluogi'r broses o rannu gwybodaeth am sbectrwm eang o bynciau, gan gynnwys ataliaeth ym maes gofal iechyd, ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd, llesiant meddyliol, a phenderfynyddion ehangach iechyd. Mae

Mae’n hysbys bod ffactorau risg ymddygiad (ysmygu, yfed alcohol, dewisiadau bwyd afiach, a lefelau isel o weithgaredd corfforol) a chlinigol (pwysedd gwaed uchel, Hyperglycemia, Ffibriliad Atrïaidd a Gordewdra) yn cynyddu risg unigolyn o ddatblygu clefydau a salwch cronig neu acíwt yn sylweddol. Ar yr ochr bositif, mae gallu uchel i addasu ffactorau risg ymddygiad a chlinigol, a thrwy ddarparu camau gweithredu atal cydgysylltiedig, effeithiol ac yn seiliedig ar dystiolaeth fel clwstwr, gellir gwella canlyniadau iechyd hirdymor unigolion, cymunedau ac ar lefel poblogaeth clwstwr.

Ar hyn o bryd, yng Nghymru, mae 46% o oedolion yn byw gydag un cyflwr cronig neu hirdymor, ac mae 19% yn profi dau neu fwy (StatsCymru). Mae’n bosibl atal amodau cronig a hirdymor drwy ganfod a rheoli ffactorau risg ymddygiad a chlinigol yn gynnar.  

Gall blaenoriaethu camau gweithredu atal yn seiliedig ar dystiolaeth a/ neu ymyrraeth gynnar ar gyfer un neu fwy o’r 8 o ffactorau risg hyn ar y cyd ar draws ôl-troed clystyrau wella canlyniadau iechyd unigolion, lleihau baich clefydau ar wasanaethau rheng flaen sylfaenol a chymunedol a dechrau lleihau anghydraddoldebau iechyd. I hysbysu pa ffactor risg ymddygiad neu glinigol sy’n berthnasol i’ch clwstwr chi, awgrymir bod pob cam gweithredu’n cael ei hysbysu gan ddata ac yn cael ei flaenoriaethu ar sail y mewnwelediad a gasglwyd o’r Asesiadau o Anghenion y Boblogaeth lleol a phroffiliau’r clystyrau.

Lluniwyd Cefnogi Ymddygiadau Iechyd gan Is-adran Gofal Sylfaenol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r adnoddau’n trafod yr ymddygiad iechyd allweddol, mewn perthynas ag ysmygu, alcohol, pwysau iach, gweithgaredd corfforol, ac atal diabetes math 2, ac maent yn benodol yn cynnwys:

  • Meysydd ar gyfer gweithgareddau gwella ansawdd
  • Dolenni i hyfforddiant ac anoddau ar gyfer y gweithlu
  • Gwybodaeth gryno am fuddion mabwysiadu ymddygiad iach a niwed ymddygiad nad yw’n iach
  • Cyfeirio unigolion i wybodaeth er mwyn cael mynediad at ragor o gefnogaeth.

Er bod yr adnoddau hyn wedi’u teilwra i’w defnyddio mewn gwasanaethau penodol a gontractiwyd, mae mwyafrif y wybodaeth yn berthnasol i’r holl staff mewn lleoliadau iechyd a gofal. Ar hyn o bryd, ceir canllawiau ar gyfer Practis Cyffredinol ac Optometreg ac mae rhagor yn cael eu datblygu. 

Mae Cymdeithas Meddygaeth Ffordd o Fyw Prydain yn darparu mynediad at ystod eang o adnoddau a thystiolaeth sy'n ymwneud â materion a sgyrsiau ynghylch ffordd o fyw.

Mae'r adroddiad diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod smygu yn dal i fod yn un o brif achosion marwolaeth a salwch yng Nghymru. Amcangyfrifwyd bod 3,845 o farwolaethau y flwyddyn ymhlith y rhai 35 oed. Priodolwyd dros 17,000 o dderbyniadau i’r ysbyty i smygu rhwng 2020-2022.

Mae gofal sylfaenol a chymunedol, fel un o’r ffynonellau gwybodaeth yr ymddiriedir ynddynt fwyaf a’r pwynt cyswllt cyntaf i bobl, yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli’r defnydd o dybaco, a hynny trwy ddarparu gwasanaeth sgrinio ac ymyriadau byr i bob claf, yn enwedig y rhai sy’n wynebu risg uchel. Mae yna dystiolaeth bod unigolion sy'n cael cyngor neu arweiniad gan eu meddyg teulu ddwywaith yn fwy tebygol o geisio rhoi'r gorau iddi a llwyddo i barhau i ymwrthod.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynhyrchu amrywiaeth o wybodaeth i gefnogi cyd-weithwyr gofal sylfaenol a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i fynd i’r afael â’r mater hwn. 

Mae Rhwydwaith Datblygu’r Gweithlu Helpa Fi i Stopio yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am adnoddau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, safonau gwasanaethau gofynnol, adnoddau hyfforddi, astudiaethau achos ac offer archwilio. Bydd angen i chi gofrestru i gael mynediad at y rhwydwaith, ac mae'n hawdd iawn cofrestru trwy ychwanegu eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair. Gallwch gael mynediad at y rhwydwaith trwy'r ddolen hon Rhwydwaith Datblygu’r Gweithlu Helpa Fi i Stopio.

Gallwch atgyfeirio eich cleifion trwy lenwi'r ffurflen atgyfeirio ar wefan Helpa Fi i Stopio.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llunio amrywiaeth o newyddlenni a chanllawiau, gan gynnwys:

Ymhlith y ffynonellau gwybodaeth defnyddiol eraill y mae:

Canllaw NICE [NG209]: Tobacco: preventing uptake, promoting quitting and treating dependence, sy’n dwyn ynghyd fersiwn wedi’i diweddaru o holl ganllawiau blaenorol NICE ar ddefnyddio tybaco. Mae’n ymdrin ag argymhellion sy’n seiliedig ar dystiolaeth i roi’r gorau i smygu i bawb 12 oed a hŷn. Yn ogystal â ffyrdd o atal plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc 24 oed ac iau rhag dechrau ysmygu.

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn darparu canllawiau cynhwysfawr ar atal, nodi, asesu a rheoli’r defnydd o alcohol a chyffuriau, yn ogystal â niwed sy’n gysylltiedig â gamblo. Isod y mae rhestr o ganllawiau NICE perthnasol:

Tabl o ganllawiau perthnasol NICE ar gyfer Alcohol

Alcohol-use disorders: diagnosis, assessment, and management of harmful drinking (high-risk drinking) and alcohol dependence [CG115]. Mae hwn yn ganllaw clinigol. Mae’n ymdrin â'r broses o adnabod, asesu a rheoli anhwylderau defnyddio alcohol ymhlith oedolion a’r glasoed.

Alcohol-use disorders: prevention [PH24]. Mae hwn yn ganllaw Iechyd Cyhoeddus. Mae’n ymdrin â phroblemau alcohol ymhlith pobl dros 10 oed. Ei nod yw atal a nodi problemau o'r fath cyn gynted â phosibl gan ddefnyddio cyfuniad o bolisïau ac arferion.

Alcohol-use disorders: diagnosis and management of physical complications [CG100].Mae’r canllaw hwn yn ymdrin â gofal i oedolion a phobl ifanc (10 oed a hŷn) a chanddynt broblemau iechyd corfforol a achosir yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan anhwylder defnyddio alcohol. Ei nod yw gwella iechyd pobl ag anhwylderau defnyddio alcohol trwy ddarparu argymhellion ar reoli diddyfnu acíwt o alcohol a thrin cyflyrau sy'n gysylltiedig ag alcohol.

Nalmefene for reducing alcohol consumption in people with alcohol dependence TA325. Mae hwn yn ganllaw arfarnu technoleg. Mae'n gwerthuso'r defnydd o Nalmefene fel triniaeth i leihau'r defnydd o alcohol ymhlith unigolion a chanddynt ddibyniaeth ar alcohol.

 

Tabl o ganllawiau perthnasol NICE ar Gamddefnyddio Cyffuriau a Sylweddau

Drug misuse in over 16s: psychosocial interventions [CG51]. Mae'r canllaw hwn yn darparu argymhellion ar ymyriadau seicogymdeithasol i oedolion a phobl ifanc sy'n camddefnyddio opioidau, symbylwyr, neu ganabis.

Drug misuse in over 16s: opioid detoxification [CG52]. Mae’r canllaw hwn yn ymdrin â helpu oedolion a phobl ifanc dros 16 oed sy’n ddibynnol ar opioidau i roi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau. Ei nod yw lleihau'r defnydd o gyffuriau anghyfreithlon a gwella iechyd corfforol a meddyliol pobl, eu perthnasoedd a'u cyflogaeth.

Needle and syringe programmes [PH52]. Mae'r canllaw hwn yn ymdrin â darparu rhaglenni nodwyddau a chwistrellau i gyfyngu ar drosglwyddo feirysau a Gludir yn y Gwaed ymhlith pobl sy'n chwistrellu cyffuriau.

 

Tabl o ganllawiau NICE perthnasol ar gyfer gamblo niweidiol:

Gambling-related harms: identification, assessment, and management [GID-NG10210]. Mae'r canllaw hwn yn cael ei ddatblygu. Mae'r ddogfen ddrafft yn mynd i'r afael ag adnabod, asesu a rheoli ymddygiad gamblo niweidiol

 

Ffynonellau cymorth eraill i oedolion

Ffynonellau cymorth eraill i Bobl Ifanc

 

Mae gweithgarwch corfforol rheolaidd yn cael ei gydnabod yn eang am ei fanteision iechyd helaeth, sy'n aml yn rhagori ar effeithiau meddyginiaeth, ac mae Academi'r Colegau Brenhinol Meddygol yn ei ddisgrifio fel "gwellhad gwyrthiol”; ar y llaw arall mae anweithgarwch yn gysylltiedig â thua'r un faint o farwolaethau yn y DU â smygu ac mae’n risg fyd-eang sylweddol o farwolaeth. Nid yw bron miliwn (998,000 o bobl) o oedolion yng Nghymru yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch corfforol. Mae'r rhan fwyaf o oedolion yn ymweld â lleoliad gofal sylfaenol a chymunedol, e.e. meddygfa deulu, o leiaf unwaith y flwyddyn, felly mae gan weithwyr iechyd proffesiynol ym meysydd gofal sylfaenol a gofal cymunedol gyfle unigryw i fynd i’r afael â’r mater hwn. Mae yna dystiolaeth gredadwy bod ymyriadau corfforol a ddarperir neu a hyrwyddir gan weithwyr proffesiynol ym maes gofal sylfaenol yn cynyddu gweithgarwch corfforol cymedrol i egnïol ymhlith oedolion yn sylweddol.

Mae gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol hwb pwrpasol (Hwb Gweithgarwch Corfforol) sy'n cynnwys adnoddau perthnasol i gefnogi dysgu pellach yn y meysydd hyn.

Mae Cymdeithas Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain yn cynnig cyrsiau, adnodd eDdysgu, taflenni ffeithiau, a'r dystiolaeth ddiweddaraf ynghylch meddyginiaeth chwaraeon ac ymarfer corff ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol.

Mae Moving Medicine yn adnodd sy'n helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gynnwys sgyrsiau am weithgarwch corfforol mewn gofal clinigol arferol. Mae ganddo hefyd ganllawiau cam wrth gam ar gyfer sgyrsiau 1 funud a 5 munud am weithgarwch corfforol.

Mae Moving healthcare professionals yn rhaglen genedlaethol yn Lloegr, sy'n cynnwys adnoddau addysg a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol.

Mae yna ymagwedd cwrs bywyd i ganllawiau gweithgarwch corfforol Prif Swyddog Meddygol y DU, sy'n cwmpasu canllawiau i blant dan 5 oed, plant a phobl ifanc, oedolion ac oedolion hŷn. Mae yna ganllawiau hefyd ar gyfer menywod beichiog a phlant a phobl ifanc ag anableddau.

Pwysedd Gwaed Uchel

Mae’r canllawiau ar roi diagnosis o bwysedd gwaed uchel ymysg oedolion a sut i’w reoli (NICE) yn cwmpasu’r gwaith o nodi a thrin pwysedd gwaed uchel sylfaenol ymysg pobl 18 oed a hŷn, gan gynnwys pobl sydd â diabetes math 2. Mae’n anelu at leihau’r risg o broblemau cardiofasgwlaidd fel trawiad ar y galon a strôc drwy helpu gweithwyr proffesiynol gofal iechyd i roi diagnosis cywir o bwysedd gwaed uchel a’i drin yn effeithiol.  

Ffibriliad Atrïaidd

Mae’r canllawiau ar roi diagnosis o Ffibriliad Atrïaidd a sut i’w reoli (NICE) yn cwmpasu diagnosis o ffibriliad artïaidd ymysg oedolion a dulliau rheoli. Mae’n cynnwys canllawiau ar ddarparu’r gofal a’r driniaeth orau i bobl â ffibriliad atrïaidd, gan gynnwys asesu a rheoli risgiau o strôc a gwaedu.  

Clefyd cardiofasgwlaidd

Mae’r canllawiau ar asesu a lleihau’r risg o Glefyd Cardiofasgwlaidd, gan gynnwys addasu lipidau (NICE),  yn cwmpasu nodi ac asesu’r risg o glefyd cardiofasgwlaidd ymysg oedolion nad oes ganddynt glefyd fasgwlaidd sydd wedi’i gadarnhau. Mae’n cwmpasu newidiadau i ffordd o fyw a thriniaeth i leihau’r lipidau (gan gynnwys statinau) ar gyfer atal clefyd cardiofasgwlaidd sylfaenol ac eilaidd ac mae’n cynnwys canllawiau i bobl sydd â diabetes neu glefyd cronig yr arennau hefyd.

Mae tudalennau’r British Heart Foundation ar y we wedi’u dylunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal iechyd i ddarparu’r arferion gorau mewn gofal cardiofasgwlaidd, gan gynnwys offer clinigol ac anodau i gefnogi gweithwyr proffesiynol a chleifion. 

Pwysau iach

Mae gordewdra a bod dros bwysau yn peri heriau iechyd sylweddol yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae 61% o’n hoedolion dros bwysau, ac mae 24% yn byw â gordewdra. Mae bron chwarter y plant dros eu pwysau neu'n ordew erbyn iddynt ddechrau yn yr ysgol. Yn 2019 lansiodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach i atal a lleihau gordewdra. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymdrin â Pwysau Iach ar sail system gyfan, er mwyn rhoi’r Strategaeth ar waith.

Mae'r rhaglen Dull System Gyfan ar gyfer Pwysau Iach yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n edrych ar gymhlethdod pwysau afiach a’r ffactorau rhyng-gysylltiedig y mae angen mynd i’r afael â nhw ar y cyd, er mwyn gwreiddio’r dull hwn ar draws y system. Mae tîm cenedlaethol o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn goruchwylio'r rhaglen. Mae swyddogion systemau o fewn Timau Iechyd y Cyhoedd y Byrddau Iechyd yn arwain ac yn gweithredu'r rhaglen hon yn eu hardaloedd. I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn eich Bwrdd Iechyd, gallwch gysylltu â'ch Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol.

I gael rhagor o wybodaeth am y dystiolaeth, y cyd-destun strategol, a’r broses naw cam tuag at ddulliau system gyfan yng Nghymru, gallwch wylio’r weminar Mynd i wraidd y broblem – Ymagwedd System Gyfan at Bwysau Iach yng Nghymru ar Rwydwaith Cymru.

Mae Cymru Iach ar Waith yn rhaglen genedlaethol sy’n anelu at wella iechyd ac atal salwch ymhlith y boblogaeth o oedran gweithio. Ariennir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cael ei darparu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r rhaglen yn cefnogi cyflogwyr trwy ddarparu arlwy digidol, sy’n cynnwys ffordd hunan-gyfeiriedig o ymdrin ag iechyd a llesiant gweithwyr. Mae gwefan Cymru Iach ar Waith yn cynnwys gwybodaeth, cyngor, offer llunio cynlluniau gweithredu, astudiaethau achos a phodlediadau, yn ogystal ag adnoddau hyfforddi a datblygu.

I wybod sut y mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) yn gweithio yn eich ardal leol yng Nghymru, ewch i Eich Ardal.

Mae gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) yr ymchwil ddiweddaraf ar yr hyn sy'n gwneud atgyfeiriad gan feddyg teulu at wasanaethau rheoli pwysau yn llwyddiannus.

Diabetes

Mae Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan yn rhaglen wedi’i thargedu sy’n cynnig cefnogaeth i bobl y mae mwy o risg iddynt ddatblygu diabetes math 2. Drwy’r rhaglen hon, mae gweithwyr cymorth gofal iechyd ymrwymedig wedi’u hyfforddi, gyda deietegwyr yn eu goruchwylio, yn darparu ymyriad byr i bobl sydd wedi cael prawf gwaed sy’n dangos bod mwy o risg iddynt ddatblygu diabetes math 2.

Datblygwyd Protocol Ymyriadau Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan i gefnogi’r rheini sy’n cynllunio ac yn darparu’r rhaglen ym mhob Bwrdd Iechyd a Chlwstwr Gofal Sylfaenol.

Mae maethiad da rhwng beichiogrwydd a phen-blwydd y plentyn yn ddwy oed yn hanfodol ar gyfer ei ddatblygiad, gan adeiladu'r sylfaen ar gyfer iechyd gydol oes. Mae maethiad digonol yn ystod y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf yn rhan gymwys o fframwaith magu plant UNICEF ar gyfer datblygiad plentyndod. Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru raglen gwella iechyd bwrpasol sy'n canolbwyntio'n benodol ar fwydo babanod yn ystod y 1000 Diwrnod Cyntaf. Lluniwyd y rhaglen yn seiliedig ar dystiolaeth gymhellol sy'n nodi mai'r amser rhwng beichiogrwydd a phen-blwydd y plentyn yn ddwy oed sydd â'r potensial mwyaf i wella canlyniadau a lleihau anghydraddoldebau iechyd. 

Gellir dod o hyd i wybodaeth allweddol am fwydo babanod o'r canlynol:

Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y fron

Cymorth bwydo ar y fron bob awr o’r dydd, bob dydd o’r wythnos, dros y ffôn a thrwy negeseuon uniongyrchol gan wirfoddolwyr sydd wedi'u hyfforddi'n gynhwysfawr. Gwasanaeth Cymraeg ar gael.

Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau a Bwydo ar y Fron (GIG)

Gwasanaeth Cyffuriau mewn Llaeth y Fron gan y Rhwydwaith Bwydo ar y Fron

Gwybodaeth am bresgripsiynu ar gyfer mamau sy'n bwydo ar y fron, gan fferyllwyr arbenigol.

Menter Cyfeillgar i Fabanod: UNICEF y DU: Mae gwaith y Fenter Cyfeillgar i Fabanod i gefnogi bwydo ar y fron yn seiliedig ar dystiolaeth helaeth a chadarn bod bwydo ar y fron yn achub bywydau, yn gwella iechyd, ac yn torri costau ym mhob gwlad ledled y byd, y rhai cyfoethog a thlawd fel ei gilydd. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bwydo babanod ar y fron yn unig am chwe mis cyntaf eu bywydau, ac yna dal ati i fwydo ar y fron gyda bwydydd ychwanegol nes bod y plentyn yn ddwy oed ac wedi hynny. Mae gan y wefan ystod eang o adnoddau ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol a rhieni ar ystod o bynciau yn ymwneud â gofalu am fabanod a theuluoedd, gan gynnwys bwydo ar y fron, meithrin perthynas, bwydo â photel, arferion cysgu ac arferion gyda'r nos, gofal cynenedigol, gofal newyddenedigol, a'r Cod Marchnata Rhyngwladol ar gyfer amnewidion llaeth y fron.

Mae'r Cynllun Cychwyn Iach yn cefnogi teuluoedd ar incwm isel i gael mynediad at fwydydd iach, llaeth fformiwla a fitaminau atodol.

Gellir dod o hyd i wybodaeth a llwybrau o ran materion bwydo maethol, megis adlif gastro-oesoffagaidd, alergedd protein llaeth buwch a thwf ansicr ar dudalen fewnrwyd y Bwrdd Iechyd neu drwy gysylltu â'r timau dieteteg/pediatreg lleol.

Gwybodaeth ddefnyddiol arall: 

Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyfleoedd i wella iechyd plant yng Nghymru: 10 Cam i Bwysau Iach.  

Mae Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn llunio sawl adroddiad yn ymwneud â data sy’n monitro perfformiad y rhaglenni sgrinio cenedlaethol yng Nghymru. I gefnogi'r gwaith o gynllunio a chyflenwi gwasanaethau o ran gofal sylfaenol a gofal cymunedol, mae’r is-adran sgrinio wedi llunio nifer o adroddiadau defnyddiol, gan gynnwys:

Adroddiad yr Is-adran Sgrinio ar Anghydraddoldebau o ran y Niferoedd 2020-21

Mae'r tîm iechyd cyhoeddus deintyddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu arweinyddiaeth o ran iechyd y cyhoedd ym maes iechyd y geg, ac yn cefnogi rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru i wella iechyd y geg yn y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd y geg, a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad, gofal a chanlyniadau deintyddol. Mae’r tîm yn darparu arweinyddiaeth genedlaethol ac yn cydlynu rhaglenni Iechyd Deintyddol Cyhoeddus allweddol, megis Cynllun Gwên, y Rhaglen Epidemioleg Ddeintyddol, ac yn cefnogi byrddau iechyd i gyflenwi'r rhaglenni hyn yn eu hardal.

Gellir cysylltu â thîm Iechyd Cyhoeddus Deintyddol Iechyd Cyhoeddus Cymru trwy e-bost dentalpublichealth@wales.nhs.uk

Ymhlith yr adnoddau defnyddiol eraill y mae:

Tabl o ganllawiau perthnasol NICE ar gyfer Iechyd y Geg a Deintyddiaeth

Oral health promotion: general dental practice. Canllaw NICE [NG30]. Mae’r canllaw hwn yn ymdrin â'r modd y gall timau practisau deintyddol cyffredinol gyfleu cyngor ar hylendid y geg a’r defnydd o fflworid. Mae hefyd yn ymdrin â deiet, smygu, tybaco di-fwg, a chymeriant alcohol.

Oral health: local authorities and partners. Canllaw iechyd cyhoeddus [PH55]. Mae'r canllaw hwn yn ymdrin â gwella iechyd y geg trwy ddatblygu a gweithredu strategaeth sy'n diwallu anghenion pobl yn y gymuned leol. Ei nod yw hybu a diogelu iechyd y geg pobl trwy wella eu diet a hylendid y geg, a thrwy eu hannog i ymweld â'r deintydd yn rheolaidd.

Oral health for adults in care homes. canllaw NICE [NG48]. Mae'r canllaw hwn yn ymdrin ag iechyd y geg, gan gynnwys iechyd deintyddol a gofal dyddiol y geg, i oedolion mewn cartrefi gofal. Y nod yw cynnal a gwella iechyd eu ceg a sicrhau mynediad amserol at driniaeth ddeintyddol.

Mae Atal a Rheoli Heintiau (IPC) yn ddull ymarferol sy'n seiliedig ar dystiolaeth o atal cleifion a staff rhag niwed a achosir gan heintiau y gellir eu hosgoi. Mae rhaglen Atal a Rheoli Heintiau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau, gan gynnwys canllawiau a phecynnau cymorth ar gyfer lleoliadau, senarios a chlefydau penodol i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Gwyddom fod brechlynnau'n achub bywydau. Gwyddom fod miliynau o bobl yn y DU yn cael eu brechlynnau, a gwyddom hefyd nad yw rhai pobl yn gwneud hynny. Gall y modd y mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn siarad am frechlynnau gael effaith sylweddol ar ymddygiad pobl tuag atynt. Mae Frameworks UK wedi datblygu adnoddau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys briffiau ymchwil a gweminarau i gefnogi'r gwaith o eirioli dros frechlynnau mewn ffordd effeithiol.

Gweler imiwneiddio a brechu o dan y data i gael rhagor o ddolenni.

Mae tudalennau Gofal Sylfaenol Gwyrddach ar y we yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau i’ch helpu chi a’ch practis i ddod yn fwy amgylcheddol gynaliadwy, gan gynnwys mynediad at Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru.

Gall NHS Forest ddarparu cymorth i safleoedd gofal iechyd drawsffurfio eu mannau gwyrdd ar gyfer iechyd, llesiant a bioamrywiaeth https://nhsforest.org/green-your-site/

Mae Coed Lleol yn helpu i wella iechyd a llesiant pobl ledled Cymru drwy weithgareddau mewn coetiroedd a natur.

  • Cyngor ar gynnal asesiad o degwch iechyd Health Equity Assessment Tool (HEAT): crynodeb gweithredol - GOV.UK (www.gov.uk)
  • Templed o broffil clystyrau - Dan ddatblygiad.