Neidio i'r prif gynnwy

Tystiolaeth

Mae Gwasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi darparu polisïau, ymarfer a gwneud penderfyniadau ynghylch iechyd ar sail tystiolaeth sy’n ategu camau gweithredu iechyd cyhoeddus, drwy gynhyrchu arolygon systematig, mapiau tystiolaeth a chrynodebau cyflym.

Mae NICE yn cyhoeddi argymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth a ddatblygwyd gan bwyllgorau annibynnol o aelodau proffesiynol a lleyg yr ymgynghorwyd arnynt gyda rhanddeiliaid. Mae’r canllawiau’n cynnwys: 

Mae ffynonellau eraill o dystiolaeth ar gyfer camau gwella yn cynnwys:

Mae’r dystiolaeth sy’n benodol i bynciau yn cynnwys:

Mae’n hysbys bod ffactorau risg ymddygiad (ysmygu, yfed alcohol, dewisiadau bwyd afiach, a lefelau isel o weithgaredd corfforol) a chlinigol (pwysedd gwaed uchel, Hyperglycemia, Ffibriliad Atrïaidd a Gordewdra) yn cynyddu risg unigolyn o ddatblygu clefydau a salwch cronig neu acíwt yn sylweddol. Ar yr ochr bositif, mae gallu uchel i addasu ffactorau risg ymddygiad a chlinigol, a thrwy ddarparu camau gweithredu atal cydgysylltiedig, effeithiol ac yn seiliedig ar dystiolaeth fel clwstwr, gellir gwella canlyniadau iechyd hirdymor unigolion, cymunedau ac ar lefel poblogaeth clwstwr.

Ar hyn o bryd, yng Nghymru, mae 46% o oedolion yn byw gydag un cyflwr cronig neu hirdymor, ac mae 19% yn profi dau neu fwy (StatsCymru). Mae’n bosibl atal amodau cronig a hirdymor drwy ganfod a rheoli ffactorau risg ymddygiad a chlinigol yn gynnar.  

Gall blaenoriaethu camau gweithredu atal yn seiliedig ar dystiolaeth a/ neu ymyrraeth gynnar ar gyfer un neu fwy o’r 8 o ffactorau risg hyn ar y cyd ar draws ôl-troed clystyrau wella canlyniadau iechyd unigolion, lleihau baich clefydau ar wasanaethau rheng flaen sylfaenol a chymunedol a dechrau lleihau anghydraddoldebau iechyd. I hysbysu pa ffactor risg ymddygiad neu glinigol sy’n berthnasol i’ch clwstwr chi, awgrymir bod pob cam gweithredu’n cael ei hysbysu gan ddata ac yn cael ei flaenoriaethu ar sail y mewnwelediad a gasglwyd o’r Asesiadau o Anghenion y Boblogaeth lleol a phroffiliau’r clystyrau.

Lluniwyd Cefnogi Ymddygiadau Iechyd gan Is-adran Gofal Sylfaenol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r adnoddau’n trafod yr ymddygiad iechyd allweddol, mewn perthynas ag ysmygu, alcohol, pwysau iach, gweithgaredd corfforol, ac atal diabetes math 2, ac maent yn benodol yn cynnwys:

  • Meysydd ar gyfer gweithgareddau gwella ansawdd
  • Dolenni i hyfforddiant ac anoddau ar gyfer y gweithlu
  • Gwybodaeth gryno am fuddion mabwysiadu ymddygiad iach a niwed ymddygiad nad yw’n iach
  • Cyfeirio unigolion i wybodaeth er mwyn cael mynediad at ragor o gefnogaeth.

Er bod yr adnoddau hyn wedi’u teilwra i’w defnyddio mewn gwasanaethau penodol a gontractiwyd, mae mwyafrif y wybodaeth yn berthnasol i’r holl staff mewn lleoliadau iechyd a gofal. Ar hyn o bryd, ceir canllawiau ar gyfer Practis Cyffredinol ac Optometreg ac mae rhagor yn cael eu datblygu. 

Dan ddatblygiad.

Dan ddatblygiad.

Pwysedd Gwaed Uchel

Mae’r canllawiau ar roi diagnosis o bwysedd gwaed uchel ymysg oedolion a sut i’w reoli (NICE) yn cwmpasu’r gwaith o nodi a thrin pwysedd gwaed uchel sylfaenol ymysg pobl 18 oed a hŷn, gan gynnwys pobl sydd â diabetes math 2. Mae’n anelu at leihau’r risg o broblemau cardiofasgwlaidd fel trawiad ar y galon a strôc drwy helpu gweithwyr proffesiynol gofal iechyd i roi diagnosis cywir o bwysedd gwaed uchel a’i drin yn effeithiol.  

Ffibriliad Atrïaidd

Mae’r canllawiau ar roi diagnosis o Ffibriliad Atrïaidd a sut i’w reoli (NICE) yn cwmpasu diagnosis o ffibriliad artïaidd ymysg oedolion a dulliau rheoli. Mae’n cynnwys canllawiau ar ddarparu’r gofal a’r driniaeth orau i bobl â ffibriliad atrïaidd, gan gynnwys asesu a rheoli risgiau o strôc a gwaedu.  

Clefyd cardiofasgwlaidd

Mae’r canllawiau ar asesu a lleihau’r risg o Glefyd Cardiofasgwlaidd, gan gynnwys addasu lipidau (NICE),  yn cwmpasu nodi ac asesu’r risg o glefyd cardiofasgwlaidd ymysg oedolion nad oes ganddynt glefyd fasgwlaidd sydd wedi’i gadarnhau. Mae’n cwmpasu newidiadau i ffordd o fyw a thriniaeth i leihau’r lipidau (gan gynnwys statinau) ar gyfer atal clefyd cardiofasgwlaidd sylfaenol ac eilaidd ac mae’n cynnwys canllawiau i bobl sydd â diabetes neu glefyd cronig yr arennau hefyd.

Mae tudalennau’r British Heart Foundation ar y we wedi’u dylunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal iechyd i ddarparu’r arferion gorau mewn gofal cardiofasgwlaidd, gan gynnwys offer clinigol ac anodau i gefnogi gweithwyr proffesiynol a chleifion. 

Pwysau iach

Mae Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan yn nodi manylion cydrannau craidd Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan ar gyfer gwasanaethau rheoli pwysau oedolion. Mae’n darparu canllawiau i’r rheini sy’n dymuno comisiynu gwasanaethau rheoli pwysau, yn ogystal ag i ddarparwyr, gan nodi manylion y gofynion gofynnol ar gyfer y gwasanaethau a’r disgwyliadau ar bob lefel o’r gwasanaethau rheoli pwysau oedolion ledled Cymru.

Mae ’Pwysau Iach Byw’n Iach Cymru yn rhan o’r GIG sy’n darparu gwybodaeth a chymorth am ddim wedi’i deilwra. Mae’r wefan ar lefel 1 Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan. Mae lefel 1 yn ymyriad cyffredinol cam cyntaf sy’n canolbwyntio ar hunanreolaeth a chyngor proffesiynol cryno (a elwir yn ymyriad cynnar yn aml).  

Mae modiwlau Lefel 1 a 2 Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif ynghylch cael sgyrsiau am bwysau iach yn canolbwyntio ar gael sgwrs dosturiol ynghylch pwysau iach gan ddefnyddio astudiaethau achos a fideos. Mae’r modiwlau hyn yn cynnig cyngor ymarferol ac adnoddau ar gyfer sgyrsiau bywyd go iawn.

Diabetes

Mae Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan yn rhaglen wedi’i thargedu sy’n cynnig cefnogaeth i bobl y mae mwy o risg iddynt ddatblygu diabetes math 2. Drwy’r rhaglen hon, mae gweithwyr cymorth gofal iechyd ymrwymedig wedi’u hyfforddi, gyda deietegwyr yn eu goruchwylio, yn darparu ymyriad byr i bobl sydd wedi cael prawf gwaed sy’n dangos bod mwy o risg iddynt ddatblygu diabetes math 2.

Datblygwyd Protocol Ymyriadau Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan i gefnogi’r rheini sy’n cynllunio ac yn darparu’r rhaglen ym mhob Bwrdd Iechyd a Chlwstwr Gofal Sylfaenol.

Dan ddatblygiad.

Dan ddatblygiad.

Dan ddatblygiad.

Dan ddatblygiad.

Mae tudalennau Gofal Sylfaenol Gwyrddach ar y we yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau i’ch helpu chi a’ch practis i ddod yn fwy amgylcheddol gynaliadwy, gan gynnwys mynediad at Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru.

Gall NHS Forest ddarparu cymorth i safleoedd gofal iechyd drawsffurfio eu mannau gwyrdd ar gyfer iechyd, llesiant a bioamrywiaeth https://nhsforest.org/green-your-site/

Mae Coed Lleol yn helpu i wella iechyd a llesiant pobl ledled Cymru drwy weithgareddau mewn coetiroedd a natur.

Dan ddatblygiad.

  • Cyngor ar gynnal asesiad o degwch iechyd Health Equity Assessment Tool (HEAT): crynodeb gweithredol - GOV.UK (www.gov.uk)
  • Templed o broffil clystyrau - Dan ddatblygiad.