Neidio i'r prif gynnwy

Data

Ar gyfer defnyddio data i gefnogi’r gwaith o gynllunio a blaenoriaethu adnoddau, mae angen ffynonellau data cyfredol, cadarn a dibynadwy, sy’n hygyrch ar y lefel briodol e.e. ôl-troed clystyrau.

Mae’r dulliau i gefnogi’r farn am ddata a thystiolaeth yn cynnwys:

Dull 3 cwestiwn Driscoll:

  • Beth y mae’r data’n ei ddweud (a oes angen asesiadau/gwybodaeth leol)?
  • Beth am hynny – pa faes sy’n flaenoriaeth, lle y dylech weithredu?
  • Beth nesaf – beth yw’r dystiolaeth dros gymryd camau/ymwybyddiaeth neu eiriolaeth?

Dull 3 cham:

  • GweithreduNodi’r bobl/boblogaeth, pa ymyriad sydd ei angen, sut y dylid gweithredu hyn.
  • Eiriolaeth – beth sydd y tu hwnt i fy rheolaeth uniongyrchol ond sy’n rhywbeth y mae angen i mi eirioli drosto gyda’r partneriaid strategol e.e. tai sy’n cefnogi iechyd.
  • Ymwybyddiaeth – beth y mae angen i mi fod yn ymwybodol ohono neu wneud eraill yn ymwybodol ohono.

Offer i asesu anghenion y boblogaeth

Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif

Mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif yn ddull i gefnogi newid mewn ymddygiad sy’n defnyddio’r miliynau o enghreifftiau o ryngweithio o ddydd i ddydd rhwng pobl. Mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif yn anelu at rymuso’r holl staff sy’n gweithio gyda pobl i drafod ymddygiad iach. Mae gwefan y fenter hon yn darparu E-ddysgu am ddim i’r holl staff sy’n gweithio ar draws clystyrau i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ar gefnogi unigolion i wneud newidiadau. 

Mae gwaith ar y gweill yng Nghymru i ddatblygu dull o Reoli Iechyd y Boblogaeth, lle y gellir segmentu a haenu’r data i nodi grwpiau o’r boblogaeth sydd mewn perygl, a allai gael budd yn sgil ymyriad iechyd a gofal cymdeithasol. Wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo, mae’n bosibl y bydd yn darparu dull defnyddiol i nodi angen a blaenoriaethu’r gwaith gweithredu.

Mae angen gwneud rhagor o waith yng Nghymru, i gryfhau’r gwaith o gasglu, dadansoddi a rhannu data rhwng partneriaid strategol i hysbysu dulliau iechyd y boblogaeth ar gyfer cynllunio, ac mae’n bosibl y bydd lansio’r Adnodd Data Cenedlaethol yn cefnogi hyn:

Ceir nifer o ddangosfyrddau sy’n cynnwys data sy’n berthnasol i ofal sylfaenol a chymunedol, sy’n ddefnyddiol at ddibenion cynllunio, sy’n cynnwys:

Bydd data ar wasanaethau penodol ar gael gan y byrddau iechyd lleol.

Mae’r ffynonellau data ar bynciau penodol yn cynnwys: