Mae deall anghenion y boblogaeth leol yn hanfodol wrth fabwysiadu dull gweithredu iechyd y boblogaeth ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau. Bydd gwneud penderfyniadau ar sail data a thystiolaeth ar bob lefel o’r system gofal sylfaenol a chymunedol yn cefnogi’r gwaith o ailddosbarthu adnoddau ar gyfer atal ac ymyrryd yn gynnar, gan leihau anghydraddoldebau ac ateb anghenion y boblogaeth.
Mae nifer o ddulliau wedi'u datblygu i gefnogi cyd-weithwyr iechyd a gofal i ddeall anghenion y boblogaeth ac i flaenoriaethu gweithgareddau. Mae pob un ohonynt yn defnyddio dull gweithredu seiliedig ar ddata a thystiolaeth, ond maent yn amrywio yn ôl eu ffocws, gan gynnwys:
Iechyd a Gofal Seiliedig ar Atal
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu'r Fframwaith Iechyd a Gofal Seiliedig ar Atal, sy'n nodi'r elfennau sylfaenol gofynnol i symud y system iechyd a gofal tuag at ffordd o weithio sy'n seiliedig ar atal.
Mae’r Fframwaith yn dod â nifer o ddulliau gweithredu ynghyd a bwriedir iddo gael ei gysoni â gwaith ar draws y system, gan gynnwys ar anghydraddoldebau, rheoli iechyd y boblogaeth, gofal iechyd, iechyd y cyhoedd, llwybrau gofal iechyd yn ogystal â gwaith ar draws sectorau a rhaglenni cenedlaethol i ymgorffori iechyd ym mhob polisi.
Trwy greu dealltwriaeth gyffredin o ddull gweithredu systematig a chydgysylltiedig sy’n seiliedig ar atal, mae’r Fframwaith Iechyd a Gofal Seiliedig ar Atal yn helpu i nodi:
 phwy y dylid cydweithio i gael yr effaith gyfunol orau
Rheoli Iechyd y Boblogaeth
Mae Rheoli Iechyd y Boblogaeth yn ddull sy’n gwella iechyd y boblogaeth trwy gynllunio a darparu gofal rhagweithiol seiliedig ar ddata er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf posibl ar iechyd a llesiant y boblogaeth. Defnyddir setiau data cysylltiedig i segmentu, haenu, a modelu’r carfannau lleol “mewn perygl” a “risg gynyddol” sydd, yn eu tro, yn cael eu defnyddio i ddylunio, targedu a phersonoli ymyriadau i ddarparu gofal rhagweithiol a chyffredinoliaeth gymesur i leihau anghydraddoldebau iechyd.
Gellir cymhwyso Rheoli Iechyd y Boblogaeth ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol i nodi'r unigolion sydd â'r angen mwyaf; y rhai a fyddai'n elwa fwyaf o ymyriad penodol; a'r rhai sydd mewn angen cynyddol neu a fydd mewn angen yn y dyfodol.
Rhagwelir y bydd Rheoli Iechyd y Boblogaeth yn gwireddu nod triphlyg:
Gwella'r ansawdd a'r profiad o ran darparu a chael gofal.
Lleihau Anghydraddoldebau trwy Ofal Sylfaenol a Chymunedol
Mae gofal sylfaenol yn gweithio o fewn a gyda chymunedau, a dyma'r lle iawn ar gyfer atal, ymyrryd yn gynnar a thriniaeth bersonol. Fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gofal sylfaenol a chymunedol cleifion, mae'n gweithredu fel canolbwynt, gan gysylltu pobl â gwasanaethau ac adnoddau eraill. Trwy ganolbwyntio ar anghydraddoldebau iechyd, nid yw gofal sylfaenol a chymunedol yn trin unigolion yn unig – mae’n creu newid parhaol, cadarnhaol i gymdeithas.
Mae’r Is-adran Gofal Sylfaenol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, wrthi'n cyd-ddatblygu fframwaith gweithredu gyda phartneriaid allweddol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd trwy ofal sylfaenol a chymunedol. Mae'r tudalennau gwe Lleihau Anghydraddoldebau Iechyd drwy Ofal Sylfaenol yn cynnwys rhagor o wybodaeth ac adnoddau sy'n berthnasol i anghydraddoldebau iechyd.
Gwerth mewn Iechyd
Mae gwerth mewn iechyd yn golygu sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i gleifion am y gost isaf bosibl. Mae'n canolbwyntio ar ddarparu gofal sy'n effeithiol, yn effeithlon ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Gofal Iechyd sy'n seiliedig ar werth i Gymru – Gwerth mewn Iechyd
Gofal iechyd y boblogaeth – Wrthi'n cael ei ddatblygu
Dulliau Seiliedig ar Asedau ar gyfer gofal integredig
Mae dulliau seiliedig ar asedau o ymdrin â gofal integredig yn manteisio ar yr adnoddau sy'n bod yn barod mewn cymuned i fynd i'r afael â heriau a dyheadau, gan bwysleisio cyd-gynhyrchu rhwng gwasanaethau ffurfiol a rhwydweithiau anffurfiol. Mae'r dulliau hyn,sy'n cyd-fynd ag ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau, yn symud y ffocws o ddiffygion i atebion, gan feithrin ymgysylltiad cydweithredol a llawn parch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Defnyddir strategaethau amrywiol sy'n seiliedig ar asedau ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a thai yn y DU. Mae’r rhain yn cynnwys cydgysylltu ardaloedd lleol, datblygu cymunedol seiliedig ar asedau, cymorth a arweinir gan y gymuned, presgripsiynu cymdeithasol, cysylltu bywydau, a chynadledda grŵp teuluol. Er bod gan bob un nodweddion arbennig, eu helfennau cyffredin yw’r hyn sy’n bwysig i’r unigolyn neu’r gymuned, gan felly gydnabod yr asedau sydd ganddynt eisoes, creu datrysiadau trwy gydweithio, ac ymgysylltu â phobl trwy amlygu parch a chydraddoldeb. Mae'r dulliau hyn yn berthnasol i ofal sylfaenol a chymunedol gan eu bod yn meithrin ymddiriedaeth, yn gwella ymgysylltiad cymunedol, ac yn hyrwyddo canlyniadau iechyd cynaliadwy trwy alinio darpariaeth gofal â chryfderau a gwerthoedd cynhenid y gymuned.
Mae'r Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth yn cynnig adnoddau amrywiol, gan gynnwys canllawiau, enghreifftiau o ymarfer, a gwerthusiadau o raglenni a allai fod yn berthnasol ar gyfer cynllunio a darparu gofal sylfaenol a chymunedol.
Mae adran cronfa wybodaeth Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru hefyd yn cynnwys adnoddau, cyrsiau, a thystiolaeth berthnasol, ynghyd ag enghreifftiau o arfer da, yn enwedig o ran cydgynhyrchu ac o ran dulliau eraill sy'n seiliedig ar asedau.