Neidio i'r prif gynnwy

Cysoni blaenoriaethau strategol

Mae tirwedd ddeddfwriaethol a pholisi Cymru yn darparu cyfeiriad strategol i gyrff cyhoeddus a’r rheini sy’n cyflawni swyddogaethau corff cyhoeddus, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd cysoni gweithgareddau clystyrau â’r rhain yn sicrhau bod blaenoriaethau partneriaid strategol yn ysgogi gwelliannau ar y cyd i iechyd y boblogaeth ac yn lleihau anghydraddoldebau ledled Cymru.  

Mae’r ddeddfwriaeth, polisi a chanllawiau allweddol sy’n berthnasol i’r rheini sy’n gweithio mewn gofal sylfaenol a chymunedol yn cynnwys:

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn anelu at wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi diben cyffredin sydd wedi’i rwymo mewn cyfraith – y 7 nod llesiant – ar gyfer llywodraeth genedlaethol, llywodraeth leol, byrddau iechyd lleol a chyrff cyhoeddus eraill a nodir.

Bydd y saith nod llesiant yn cynnwys:

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle y mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Mae’r ddeddf yn nodi’r ffyrdd y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus a nodir weithio a chydweithio i wella llesiant Cymru. Cyfeirir at yr ‘egwyddorion datblygu cynaliadwy’ hyn hefyd fel y pum ffordd o weithio:

  • Hirdymor
  • Integreiddio
  • Cyfranogiad
  • Cydweithredu
  • Atal

Cymru Iachach

Mae Cymru Iachach yn un o saith nod llesiant. Mae Cymru Iachach: cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn nodi gweledigaeth hirdymor yn y dyfodol i sefydlu un system gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, sy’n canolbwyntio ar iechyd a llesiant, ac atal salwch. Bydd ffocws ar y pedwar nod a ganlyn:  

• Gwella iechyd a llesiant y boblogaeth;
• Gwella ansawdd a hygyrchedd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol;
• Cynyddu gwerth iechyd a gofal cymdeithasol;
• Gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol brwd a chynaliadwy.

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn ddyletswydd statudol ar awdurdodau cyhoeddus a chyrff eraill sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus. Mae’n sicrhau bod y sefydliadau hynny yn ystyried sut y bydd eu swyddogaethau’n effeithio ar bobl sydd â gwahanol nodweddion a warchodir. Mae’r swyddogaethau hyn yn cynnwys eu polisïau, rhaglenni a gwaith cynllunio a’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt. Yn ogystal â’r ddyletswydd gyffredinol, mae rheoliadau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn nodi dyletswyddau penodol ychwanegol sy’n wahanol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae’r dyletswyddau penodol sy’n weithredol yng Nghymru wedi’u crynhoi gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Dyletswydd economaidd-gymdeithasol

Daeth y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021. Mae’n ofyniad statudol ar gyfer yr awdurdodau perthnasol ac mae’n anelu at ysgogi gwneud penderfyniadau gwell a sicrhau canlyniadau gwell i’r rheini sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol. Datblygwyd dull pum cam i ddarparu arweiniad i gyrff cyhoeddus ynghylch sut y maent yn bodloni’r ddyletswydd yn ymarferol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu Cymru sy’n Fwy Cyfartal – Mapio’r Dyletswyddau, sy’n ddogfen i helpu cyrff cyhoeddus i ystyried eu swyddogaethau wrth gyflawni dyletswyddau’r Ddeddf Cydraddoldeb a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. 

Dyletswydd Ansawdd

Cyflwynwyd y ddyletswydd ansawdd mewn gofal iechyd drwy Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (‘y Ddeddf’). Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ansawdd cyffredinol ar Weinidogion Cymru mewn perthynas â’u swyddogaethau sy’n gysylltiedig ag iechyd.  Mae’n ehangu’r ddyletswydd bresennol ar gyrff y GIG (Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG, ac Awdurdodau Iechyd Arbennig Cymru).

Diben y ddyletswydd cydraddoldeb yw sicrhau bod Gweinidogion Cymru a chyrff y GIG yn sicrhau gwelliannau yn ansawdd y gwasanaethau y maent yn eu darparu. Mae chwe pharth ansawdd sy’n sicrhau bod y penderfyniadau a wneir yn darparu gofal sy’n ddiogel, amserol, effeithiol, effeithlon, teg ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn.

Y Rhaglen Lywodraethu

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn nodi 10 amcan llesiant y bydd Llywodraeth Cymru’n eu defnyddio i gyfrannu i’r eithaf at 7 nod llesiant hirdymor Cymru a’r camau y bydd yn eu cymryd i’w cyflawni.