Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth ac adnoddau cynllunio

Cynllunio ar gyfer y gweithlu

Addysg a Gwella Iechyd Cymru yw corff strategol y gweithlu ar gyfer GIG Cymru. Fel Awdurdod Iechyd Arbennig, mae gennym gyfraniad unigryw i’w wneud o ran mynd i’r afael â phroblemau strategol ac arbenigol y gweithlu, sy’n gwneud Cymru yn le gwych i’n staff iechyd a gofal hyfforddi a gweithio ynddo ac sy’n manteisio i’r eithaf ar gyfraniad yr holl broffesiynau a galwedigaethau drwy ein swyddogaethau statudol.

Datblygwyd y Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol gan AaGIC a’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol, ar y cyd ag amrywiaeth eang o randdeiliaid. Nod y cynllun yw datblygu modelau gweithlu cynaliadwy sy’n cefnogi uchelgais Cymru Iachach a’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru. Mae’r cynllun yn nodi 26 o gamau i’w gweithredu dros gyfnod o bum mlynedd sy’n cyd-fynd â themâu y Strategaeth ar gyfer y Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  

Mae adnoddau AaGIC yn cynnwys:

  • Mae’r offeryn cynllunio ar gyfer y gweithlu gofal sylfaenol yn darparu dull cam wrth gam ar gyfer cynllunio’r gweithlu mewn gofal sylfaenol sy’n darparu methodoleg wedi’i symleiddio i bractisau a chlystyrau ei ddefnyddio i lunio eu cynlluniau ar gyfer y gweithlu.
  • Mae’r Compendiwm Rolau a Modelau Gofal Sylfaenol a Chymunedol yn gasgliad o astudiaethau achos o bob cwr o Gymru sy’n arddangos yr amrywiaeth o sgiliau sy’n cael eu defnyddio i’r eithaf mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol i ateb anghenion y boblogaeth leol. Mae pob cofnod yn dangos cyfraniad a gwerth rolau a modelau anhraddodiadol y gweithlu o ran gwella a hwyluso datblygiad timau integredig ac mae’n annog penderfyniadau ar gynllunio’r gweithlu sy’n fwy gwybodus.
  • Mae’r hafan Gofal Sylfaenol yn cynnwys gwybodaeth am leoliadau hyfforddi, Academïau Gofal Sylfaenol, hyfforddiant amlbroffesiwn, a chyfleoedd hyfforddi ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.
  • Mae hafan y Gweithlu yn cynnwys dewislen o adnoddau ar gynllunio a datblygu’r gweithlu a strategaethau ar ei gyfer. 
  • Mae hafan Gyrfaoedd y GIG yn darparu cwymplen o nifer o rolau’r GIG, gyda phanel llywio ar ochr y dudalen hon sy’n cynnwys dolenni i wybodaeth fwy cyffredinol ar yrfaoedd yn y GIG a gofal cymdeithasol.

Mae Tregyrfa yn llwyfan am ddim ar y we (ewch i’r Ddolen) sydd ar gael i ddysgwyr, athrawon, rhieni neu warcheidwaid, a chynghorwyr gyrfaoedd. Mae’r safle’n arddangos amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfaol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru drwy bentref rhithwir rhyngweithiol.

Mae’r dudalen Rhannu Ymarfer ar y wefan Gofal Sylfaenol Un yn lleoliad i rannu gwaith/ prosiectau a wnaed o fewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol. Mae hyn yn cynnwys syniadau arloesol ar gyfer gweithio mewn clystyrau, amlinelliadau o brosiectau clystyrau a gwerthusiadau o’r gwaith a wnaed.  

Adnoddau a thempledi

Dan ddatblygiad.

Llawlyfrau Clystyrau

Mae’r llawlyfrau clystyrau yn darparu arweiniad ar bob agwedd ar weithio mewn clwstwr.  

Y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol

  • Mae’r Pecyn Cymorth Datblygiad Clwstwr Carlam yn gasgliad o wybodaeth ac adnoddau y gellir eu haddasu ar gyfer rhanddeiliaid a fydd yn cefnogi ac yn ysgogi gweithrediad y rhaglen datblygiad clwstwr carlam, gan gynnwys y timau Gofal Sylfaenol, Cydweithrediadau Proffesiynol, Clystyrau a Grwpiau Cynllunio Trawsglwstwr.
  • Mae’r Pecyn Cymorth Seilwaith Cymunedol yn gasgliad o wybodaeth ac adnoddau a ddyluniwyd ar gyfer unrhyw un (beth bynnag fo’u proffesiwn, maes, neu lefel ymarfer) sy’n cefnogi’r broses o ddarparu gofal yn seiliedig ar le, waeth beth fo’r lleoliad.
  • Mae’r Pecyn Cymorth Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys yn gasgliad o wybodaeth ac adnoddau i randdeiliaid sydd o bosibl yn cefnogi ac yn ysgogi’r Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys neu i gydweithwyr sydd â diddordeb yn y gwaith sy’n cael ei wneud.
  • Mae’r adnoddau rheoli prosiectau ar gael i gefnogi gweithio mewn clystyrau.
  • Templed Excel o gynllun blynyddol clwstwr
  • Templed Word o gynllun blynyddol clwstwr
  • Mae templed o Gynllun Tymor Canolig Integredig clwstwr gofal sylfaenol ar gael i gefnogi’r clystyrau i ddatblygu eu cynlluniau 

Datblygu achos busnes

Gellir cynnwys cyfuniad o’r data sy’n disgrifio’r anghenion na chawsant eu hateb, tystiolaeth ar gyfer camau gweithredu adferol, a chynnig ar gyfer blaenoriaethu mewn amlinelliad o achos busnes i gefnogi’r broses ffurfiol o wneud penderfyniadau.  

  • Templedi achosion busnes clystyrau - Dan ddatblygiad.

Llywodraethu Gwybodaeth

Mae’r wefan Llywodraethu Gwybodaeth yn anelu at ddarparu canllawiau ac adnoddau i sefydliadau ledled GIG Cymru i ddatblygu eu prosesau Llywodraethu Gwybodaeth yn unol â’r ddeddfwriaeth bresennol, y safonau llywodraethu gwybodaeth cenedlaethol ac arferion gorau ac i’w cefnogi i gwblhau Pecyn Cymorth Cymru ar Lywodraethu Gwybodaeth.

Y Pecyn Cymorth Hunanasesu Llywodraethu Clinigol Practisau

Mae’r Pecyn Cymorth Hunanasesu Llywodraethu Clinigol Practisau yn berthnasol i bob Practis Cyffredinol yng Nghymru, sy’n cynnwys yr holl Gontractwyr Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, Practisau Gwasanaethau Meddygol gan Ddarparwyr Amgen a phractisau Meddygon Teulu a reolir gan Fyrddau Iechyd.

Amodau a chefnogaeth ariannol

Bydd angen i glystyrau ystyried yr angen i gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol ac arddangos diwydrwydd dyladwy mewn perthynas â’r prosesau caffael:

  • Mae Canllaw arfer da i Lywodraethu Clystyrau Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014 yn cwmpasu amcan, diben a buddion Deddf Cyllid y GIG (Cymru), 2014 (Atodiad 13).  
  • Mae’r Bartneriaeth Cydwasanaethau yn darparu cyngor mewn perthynas â gofal sylfaenol ynghylch rheoli contractau, ad-daliadau, gwirio ar ôl gwneud taliadau a gwasanaethau gwybodaeth ar gyfer meddygon teulu, fferyllfeydd cymunedol, deintyddion, optegwyr, a chontractwyr cyfarpar sy’n darparu gwasanaethau i’r GIG yng Nghymru.  

Adnoddau hyfforddi

Gellir chwilio am gyfleoedd i ddatblygu gallu a chapasiti cynllunio mewnol. Mae’r adnoddau cenedlaethol yn cynnwys:

  • Mae’r adran Cydwasanaethau wedi datblygu Rhaglen Ddysgu ym Maes Cynllunio, i gryfhau’r sgiliau cynllunio, gyda chydweithio da rhwng cymuned gynllunio GIG Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae’n cwmpasu Diploma mewn Cynllunio Gofal Iechyd, gweithdai, dosbarthiadau meistr a digwyddiadau dysgu.
  • ​Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru adnoddau cynllunio a hyrwyddo dysgu, sy’n cynnwys mewnwelediadau i gynllunio, comisiynu a chydgynhyrchu o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a phecyn cymorth ar asesu’r boblogaeth a phecyn cymorth i gefnogi’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i lunio Cynlluniau Ardal.   
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC): Adnoddau i integreiddio a meithrin arbenigedd a gallu yn y gwaith o gynllunio, datblygu, siapio a chefnogi’r gweithlu iechyd.
  • Academi Wales: Amrywiaeth o adnoddau, cyrsiau a digwyddiadau a rhwydweithiau dysgu sydd wedi’u hanelu at arweinwyr a rheolwyr.
  • Conffederasiwn GIG Cymru: Pynciau (e.e. cyllid, iechyd y boblogaeth, ac ati), rhwydweithiau, cymorth i arweinwyr, cyhoeddiadau, digwyddiadau, a newyddion.