Neidio i'r prif gynnwy

Asedau sy'n Seiliedig ar Leoliad

Mae dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar asedau yn ffordd o edrych ar yr hyn sydd gan gymuned/poblogaeth, yn hytrach na’r hyn nad oes ganddynt. Mae’r dull hwn yn helpu i werthfawrogi a defnyddio sgiliau, gwybodaeth a perthnasoedd sy’n bodoli eisoes mewn cymuned. Bydd mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar asedau o ran cynllunio yn sicrhau bod cymunedau lleol, sefydliadau’r sector cymunedol a gwirfoddol, a’r gwasanaethau statudol yn cydweithio i gynllunio, dylunio, datblygu, darparu a gwerthuso mentrau iechyd a llesiant.

Mae canllawiau NICE ‘Community engagement: improving health and wellbeing and reducing health inequalities’, yn disgrifio:

  • Defnyddio dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ymgysylltu â chymunedau (gweler cydweithrediadau a phartneriaethau a rolau cyfoedion a lleyg).
  • Bod yn glir am ba benderfyniadau y gall pobl mewn cymunedau lleol ddylanwadu arnynt a sut y bydd hyn yn digwydd.
  • Cydnabod, gwerthfawrogi a rhannu gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau’r holl bartneriaid, yn enwedig y rheini o’r gymuned leol (ewch i’r adran ar ddysgu a hyfforddi).
  • Gwneud amcanion pob partner ar gyfer ymgysylltiad cymunedol yn glir.
  • Parchu hawliau cymunedau lleol i gymryd rhan cymaint neu cyn lleied ag y gallant neu y maent yn ei ddymuno.
  • Sefydlu a hyrwyddo rhwydweithiau cymdeithasol a chyfnewid gwybodaeth a syniadau (ar faterion fel blaenoriaethau a gwerthoedd diwylliannol gwahanol).

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu adnoddau i gefnogi grymuso unigolion a chymunedau sy’n cefnogi canlyniadau un a dau y Model Gofal Sylfaenol i Gymru. Mae camau gweithredu sy’n ysgogi mwy o reolaeth unigol ac ar y cyd yn hybu iechyd yn ei rinwedd ei hun. Mae grymuso hefyd yn gwella perthnasoedd cymdeithasol ar lefel unigolion a’r boblogaeth, a phan fyddant wedi’u grymuso, mae unigolion yn ymgysylltu â’r gwaith i wella a datblygu gwasanaethau, ac mae’r ddarpariaeth yn well ac yn fwy tebygol o ateb anghenion defnyddwyr y gwasanaethau.

Nid yw grymuso yn rhywbeth y mae gweithwyr proffesiynol neu sefydliadau yn ei ‘wneud’ i gymuned, ond ein rôl ni yw creu amodau lle y gall cymunedau gipio’r grym. Mae’r Egwyddorion Ymgysylltu â’r Gymuned er Mwyn Grymuso yn anelu at annog ymarfer adlewyrchol wrth weithio gyda chymunedau a throstynt.

Mae presgrispiynu cymdeithasol yn derm ymbarél sy’n disgrifio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i gysylltu pobl ag asedau cymunedol lleol. Mae’r asedau cymunedol yn cynnwys grwpiau cymunedol, ymyriadau a gwasanaethau y gellid eu darparu ar-lein neu wyneb yn wyneb, yn ogystal ag adeiladau, tir neu unigolyn o fewn cymuned hyd yn oed. Gall helpu i rymuso unigolion i adnabod eu hanghenion, eu cryfderau a’u hasedau personol ac i gysylltu â’u cymunedau eu hunain i gefnogi eu hiechyd a’u llesiant.

Mae’r wybodaeth i gefnogi clystyrau i nodi eu hasedau iechyd a gofal, a chymunedol, o fewn ôl-troed y clwstwr, yn cynnwys: