Mae’r porth cymorth cynllunio i glystyrau yn adnodd ar gyfer y rheini sy’n gweithio mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol yng Nghymru i gefnogi’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal.
Dylai’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru gyd-fynd â chyfeiriad strategol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn enwedig nod llesiant Cymru Iachach a’r egwyddorion datblygu cynaliadwy / pum ffordd o weithio.
Mae’r adnodd hwn yn rhoi trosolwg o’r prosesau cynllunio yng Nghymru a’r elfennau allweddol i’w hystyried, gan gynnwys yr ystyriaethau/methodolegau ar gyfer asesu ac ymateb i anghenion lleol, gan gysylltu’r ffynonellau gwybodaeth bellach, a chefnogi datblygiad sgiliau.
Mae’r porth cynllunio’n adeiladu ar becynnau cymorth y Porth Cymorth Cynllunio i Glystyrau a Gwybodaeth am Iechyd y Boblogaeth Fesul Pwnc.
Mae hwn yn adnodd newydd, ac rydym yn croesawu eich adborth ar sut y gellir datblygu’r adnodd. Gallwch gyflwyno eich adborth drwy lenwi ffurflen Microsoft fer neu drwy e-bost GofalSylfaenol.Un@wales.nhs.uk