Neidio i'r prif gynnwy

Dwyrain Caerdydd

 

Arweinydd y Clwstwr Gwag

 

Practisau Cyffredinol yn Iechyd Dwyrain Caerdydd
Mae pedwar practis yn darparu gwasanaethau i gleifion sydd wedi cofrestru gyda phractisau meddygon teulu yn ardal Clwstwr Dwyrain Caerdydd gyda phoblogaeth o tua 57,775.

Mae Clwstwr y Dwyrain yn cael ei ystyried fel y 7fed poblogaeth gofrestredig fwyaf difreintiedig yn ôl ardaloedd clwstwr yng Nghymru o gyfanswm o 63 o glystyrau.

Meddygfa Brynderwen (a Minster Road) 
Llan Gofal Iechyd (Canolfan Iechyd Llanedeyrn l Canolfan Iechyd Llanrhymni)

Canolfan Gofal Sylfaenol Tredelerch 
Meddygfa Willowbrook 

Cynlluniau ac Adroddiadau Clwstwr Unigol

Mae Clwstwr Dwyrain Caerdydd ar hyn o bryd yn y broses o ddatblygu ei gynlluniau unigol ar gyfer 2024-25 a fydd yn seiliedig ar asesiad o anghenion y boblogaeth a blaenoriaethau lleol a nodwyd gan y clwstwr.

Yr hyn rydym yn gweithio arno

Ein nod fel Clwstwr yw gwella iechyd ein poblogaeth drwy fentrau amlddisgyblaethol a fydd yn gwella ansawdd y gofal a'r cymorth y mae ein cleifion yn eu derbyn.

Cymryd rhan ym mhrosiect Deep End Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu. Mae Deep End Wales Project (rcgp.org.uk) yn datblygu rhwydwaith o feddygon teulu sy'n gwasanaethu'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol yng Nghymru, gyda'r nod o wneud darpariaeth gofal iechyd yn decach.  Trwy weithio ar y cyd a rhannu syniadau ac ymchwil, rhoi cefnogaeth i’r ddwy ochr a hyrwyddo cleifion sy'n byw mewn ardaloedd o amddifadedd uchel. 

Yr hyn rydym wedi’i wneud eisoes

Mynd i'r afael â ffactorau economaidd-gymdeithasol megis tai, tlodi tanwydd, ansicrwydd bwyd, addysg ac ati a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar ganlyniadau iechyd corfforol a meddyliol, lles ac ansawdd bywyd unigolyn.  Rydym yn cydweithio â Mind Caerdydd – sefydliad trydydd sector – i gyflawni ein Prosiect Cysylltwyr Cymunedol, i gynnig cefnogaeth i'n cymuned gyda materion nad ydynt yn ymwneud ag iechyd sy'n cael effaith ar iechyd yn y tymor hir. 

Arferion Deall Dementia: dyfarnwyd hyn ar draws Clwstwr Dwyrain Caerdydd ac roedd yn cynnwys nodi cleifion â dementia a chwblhau "pasbortau cleifion", hefyd fe wnaeth staff gwblhau hyfforddiant Cyfaill Dementia ac fe wnaeth Meddygon Teulu a Nyrsys Arweiniol gwblhau’r Cwrs: Dementia Alzheimer (rcgp.org.uk)  

Treialu'r buddion sy'n gysylltiedig â Chlinigau Menopos Arbenigol wedi’u lleoli yn y Clystyrau:  Mae'r canlyniadau a gafwyd o'r treial yn cael eu defnyddio i lywio trafodaethau o fewn y Bwrdd Iechyd ar ddarpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol.

Diabetes: Mae'r Practisau wedi ymgymryd â gwaith i leihau lefel diabetes ymhlith cleifion yn eu hardal a darparu lefelau uwch o ofal i bobl sy'n arddangos symptomau o diabetes sy'n datblygu. 

Gweithio'n agos gyda'r trydydd sector, yn enwedig Cymunedau yn Gyntaf:  Microsoft Word - TB-07-008.doc (senedd.cymru) sy’n cynnwys:

  • Gwahodd cleifion am gyngor gan Gofal a Thrwsio ar eu pen-blwydd yn 75
  • Rhoi pecyn gwybodaeth i gleifion â dementia gan Y Gymdeithas Alzheimer’s 
  • Presgripsiwn cymdeithasol yn cynnig atgyfeiriadau i ddosbarthiadau ymarfer corff, grwpiau garddio, grwpiau ‘Sied y Dynion / Men's Shed’
Blaenoriaethau’r Clwstwr ar gyfer y dyfodol

Gwella nifer y bobl sy'n manteisio ar wasanaethau Sgrinio Canser y Coluddyn drwy weithio gyda'n timau Iechyd y Cyhoedd i hyrwyddo pwysigrwydd sgrinio a chodi ymwybyddiaeth o ba mor syml yw’r broses. 

Gwella'r nifer sy'n manteisio ar imiwneiddiadau a brechiadau ar y cyd â chydweithwyr yn y Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol rydym yn anelu at gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar wasanaethau imiwneiddio a sgrinio. 

Cynyddu dealltwriaeth sylfaenol o'r pum maes allweddol o ran ymddygiadau ffordd o fyw sydd â goblygiadau mawr o ran iechyd a lles i boblogaeth Dwyrain Caerdydd sef ysmygu, alcohol, gweithgarwch corfforol, deiet ac imiwneiddiadau. 

Datblygu prosiectau cydweithredol aml-broffesiynol sy'n targedu’r anghenion a nodwyd o ran iechyd y boblogaeth mewn meysydd fel:

  • Iechyd a lles pobl ifanc yn eu harddegau - Yng Nghlwstwr Dwyrain Caerdydd, mae 19.8% o'r boblogaeth o dan 15 oed sy'n uwch na'r Clystyrau eraill yng Nghaerdydd a’r Fro.
  • Gwella cyfraddau disgwyliad oes - Clwstwr Dwyrain Caerdydd sydd â'r Disgwyliad Oes Iach (DOI) Isaf ar gyfer Dynion (55.2 oed) a Merched (56.1 oed) yn Llanrhymni a Trowbridge yn y drefn honno.
  •   Mae'r Clwstwr felly'n awyddus i ddatblygu mentrau prosiect sy'n adlewyrchu'r anghenion poblogaeth hyn i wella iechyd a lles hirdymor cleifion.

Diweddaru 01/11/24